Sori, dylwn i fod wedi dweud ser-ddewinol yn lle seryddol! Ond yr un gair ydi o, - o'r Lladin quintilis (dw i'n meddwl). Wn i ddim sut y mudodd o fyd ser-ddewiniaeth i fyd ystadegaeth chwaith. Dw i wedi dod ar ei draws o'r blaen mewn ymadroddion fel 'quintile of deprivation' etc. - Ac ar ôl crafu pen am yn hir a meddwl am wahanol ymadroddion yn cynnwys y gair pumed penderfynu defnyddio cwintel am ei fod yn un gair. ond os ydi rhywun yn gwybod am gyfieithiad cydnabyddedig byddwn i'n falch o wybod at y dyfodol. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Palmer Parry x Sent: 28 February 2005 14:32 To: [log in to unmask] Subject: Re: quintile Mae'r "Astr" yn GyrA yn cyfeirio at sêr-ddewiniaeth yn hytrach na seryddiaeth. Ar y blaned hon, mae quantile, quartile, percentile etc. yn dermau ystadegaeth. Felly hefyd quintile. Palmer ----- Original Message ----- From: Sylvia Prys Jones To: [log in to unmask] Sent: Monday, February 28, 2005 12:43 PM Subject: Re: quintile Dw i wedi defnyddio cwintel o'r blaen, dw i'n gwybod mai mewn ystyr 'seryddol' mae GyrA yn cyfieithu 'quintile' fel 'cwintel' ond yr un gair ydi o am wn i. Sylvia. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Gwenllian Williams Sent: 28 February 2005 11:29 To: [log in to unmask] Subject: quintile Unrhyw syniad be mae'r Cynulliad yn ei ddefnyddio ar gyfer quintile - does dim i'w weld ar TermCymru. '...households in the lowest income quintile....' ydi rhan o'r frawddeg gen i. Diolch am unrhyw awgrymiadau. Gwenllian -- No virus found in this outgoing message. Checked by AVG Anti-Virus. Version: 7.0.300 / Virus Database: 266.4.0 - Release Date: 22/02/2005