"Cyngor yr ysgol" sy'n gywir yn y cyd-destun yma yn sicr, yn union fel
"cap y bachgen" neu "neuadd y dref"; ac mae yna gyfuniadau eraill ar batrwm "y
dreth gyngor" sy'n anghywir. Mae "Y Gwasanaeth Llys" er enghraifft yn
gyfieithiad anghywir ar gyfer "The Court Service".
Nid
cyferbyniad rhwng un gystrawen gywir ac un gystrawen anghywir sydd gyda ni yma.
Mae'r ddwy gystrawen yn angenrheidiol, ond mae "treth y cyngor" yn golygu
rhywbeth gwahanol i "y dreth gyngor" ac yn methu â chyfleu ystyr "the council
tax" yn gywir. Rhowch eiriau eraill yn lle "council" ac fe gewch chi bethau
fel "the inheritance tax", "the pollution tax". Byddai "treth y
dreftadaeth" yn wahanol iawn i "y dreth dreftadaeth".
Ac o
ran osgoi cyfuniadau o'r fath, beth am y cyngor sir, y cyngor cymuned, y gyllell
fara y soniodd Geraint amdani, y dillad gwaith, y côr meibion, y beirdd llys, y
wladwriaeth les, yr ardd lysiau, y côr plant, y clwb ieuenctid, y llygoden
eglwys?
'Treth y Cyngor ' sy'n fy nharo i orau. Yn
ddiweddar, mae fy merch wedi bod yn sôn am 'y Cyngor Ysgol' yn ei hysgol hi,
Ysgol Gymraeg Aberystwyth, ond mae'n taro'n od i mi. Cofiaf gael fy nghywiro,
yn haeddiannol, pan oeddwn yn y flwyddyn gyntaf yn y Coleg, am ysgrifennu
'yr orsaf reilffordd' yn lle 'gorsaf y rheilffordd'. Rhyw duedd ddiweddar yw
pethau fel 'y dreth gyngor' o dan ddylanwad y Saesneg, hyd y gwela' i...
Weithiau, mae'n siwr fod cyfuniadau o'r fath yn anodd eu hosgoi, ond os gellir
eu hosgoi, gwell gwneud.
Rhisiart
----- Original Message -----
Sent: Thursday, February 10, 2005 2:12
PM
Subject: Council Tax
Rydan ni ers
blynyddoedd wedi dilyn cyngor Termau Llywodraeth Leol ar yr uchod, a
defnyddio Treth y Cyngor. Ond mae Term Cymru yn rhoi Y Dreth
Gyngor yn bennaf, er bod Treth y Cyngor hefyd yn ymddangos. Nid oes
cyfeiriad ato yn GyrA.
Rydan ni o'r
farn fod Y Dreth Gyngor yn anghywir (ond ddim yn gwybod pam yn
union).
Beth yw eich
barn chi os gwelwch yn dda. Mae gennym swyddog yma sy'n mynnu dilyn "Y
Swyddfa Gartref"
Diolch
John
Ni ddylid trin e-bost
ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn
monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y rhyngrwyd yn ogystal â'u
cynnwys.
Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir
y neges hon. Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r
sawl a'i gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu
ddatgelu cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad
yw'r farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich
cydweithrediad.
Heddlu Gogledd Cymru
Internet e-mail is not
to be treated as a secure means of communication. North Wales Police monitor
all Internet e-mail activity and content.
This communication is
intended for the addressee(s) only. Please notify the sender if received in
error and erase from your system. Unauthorised use or disclosure of the
content may be unlawful, Opinions expressed in this document may not be
official policy. Thank you for you co-operation.
North Wales
Police