Print

Print


"Cyngor yr ysgol" sy'n gywir yn y cyd-destun yma yn sicr, yn union fel "cap
y bachgen" neu "neuadd y dref"; ac mae yna gyfuniadau eraill ar batrwm "y
dreth gyngor" sy'n anghywir. Mae "Y Gwasanaeth Llys" er enghraifft yn
gyfieithiad anghywir ar gyfer "The Court Service".

Nid cyferbyniad rhwng un gystrawen gywir ac un gystrawen anghywir sydd gyda
ni yma. Mae'r ddwy gystrawen yn angenrheidiol, ond mae "treth y cyngor" yn
golygu rhywbeth gwahanol i "y dreth gyngor" ac yn methu â chyfleu ystyr "the
council tax" yn gywir. Rhowch eiriau eraill yn lle "council" ac fe gewch chi
bethau fel "the inheritance tax", "the pollution tax". Byddai "treth y
dreftadaeth" yn wahanol iawn i "y dreth dreftadaeth".

Ac o ran osgoi cyfuniadau o'r fath, beth am y cyngor sir, y cyngor cymuned,
y gyllell fara y soniodd Geraint amdani, y dillad gwaith, y côr meibion, y
beirdd llys, y wladwriaeth les, yr ardd lysiau, y côr plant, y clwb
ieuenctid, y llygoden eglwys?




  -----Original Message-----
  From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Rhisiart Hincks
  Sent: 10 February 2005 18:28
  To: David Bullock
  Subject: Re: Council Tax


  'Treth y Cyngor ' sy'n fy nharo i orau. Yn ddiweddar, mae fy merch wedi
bod yn sôn am 'y Cyngor Ysgol' yn ei hysgol hi, Ysgol Gymraeg Aberystwyth,
ond mae'n taro'n od i mi. Cofiaf gael fy nghywiro, yn haeddiannol, pan
oeddwn yn y flwyddyn gyntaf yn y Coleg, am ysgrifennu 'yr orsaf reilffordd'
yn lle 'gorsaf y rheilffordd'. Rhyw duedd ddiweddar yw pethau fel 'y dreth
gyngor' o dan ddylanwad y Saesneg, hyd y gwela' i... Weithiau, mae'n siwr
fod cyfuniadau o'r fath yn anodd eu hosgoi, ond os gellir eu hosgoi, gwell
gwneud.

  Rhisiart
    ----- Original Message -----
    From: Puw, John
    To: [log in to unmask]
    Sent: Thursday, February 10, 2005 2:12 PM
    Subject: Council Tax


    Rydan ni ers blynyddoedd wedi dilyn cyngor Termau Llywodraeth Leol ar yr
uchod, a defnyddio Treth y Cyngor.  Ond mae Term Cymru yn rhoi Y Dreth
Gyngor yn bennaf, er bod Treth y Cyngor hefyd yn ymddangos.  Nid oes
cyfeiriad ato yn GyrA.

    Rydan ni o'r farn fod Y Dreth Gyngor yn anghywir (ond ddim yn gwybod pam
yn union).

    Beth yw eich barn chi os gwelwch yn dda.  Mae gennym swyddog yma sy'n
mynnu dilyn "Y Swyddfa Gartref"

    Diolch

    John

    Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu. Mae
Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y
rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

    Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.
Os ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i
gyrrodd wybod a dilëwch hi oddi ar eich system. Gall defnyddio neu ddatgelu
cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r
farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol. Diolch i chi am eich
cydweithrediad.

    Heddlu Gogledd Cymru

    Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

    This communication is intended for the addressee(s) only. Please notify
the sender if received in error and erase from your system. Unauthorised use
or disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this
document may not be official policy. Thank you for you co-operation.

    North Wales Police