Print

Print


I gyd-fynd â gwyrdroi "y dreth gyngor" yn "treth y cyngor", wrth siarad mae
bron pawb yn mynnu troi "Bwrdd yr Iaith", sef bwrdd yn ymwneud ag un iaith,
y Gymraeg, yn "y bwrdd iaith" sef bwrdd yn ymwneud â rhyw iaith neu'i
gilydd.

Ond mae rhyw elfen o ddiawledigrwydd fel hyn yn codi yn aml mewn iaith.
Dyma un arall sy'n y ngoglais i wastad: anaml iawn wi'n clywed pobl (yn y De
beth bynnag) yn treiglo'n llaes ar ôl "a" neu "gyda" neu "tua". Ac mae pawb
yn deall mai treiglad meddal sy'n dilyn ar ôl "dyna". Felly pam yn gwmws mae
pobl y de yn glynu'n ffyddlon at dreiglad llaes yn "Dyna pham..."? Od on'd
yw e?



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Puw, John
Sent: 10 February 2005 15:19
To: David Bullock
Subject: ATB: Council Tax


Diolch bawb

Mae'r papur bellach wedi mynd at yr argraffwyr yn unol â dymuniad y swyddog
yn hytrach nag un ni!

Felly, ym mhump o chwe sir gogledd Cymru, bydd y cynghorau yn anfon papur
allan dan y teitl Treth y Cyngor neu Treth Cyngor (yn achos Gwynedd)
1995/96.  O fewn y papur hwnnw, bydd taflen Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
dan y teitl Y Dreth Gyngor.  Mae'r sefyllfa'n wirion bost ac er yr hyn a
ddywedodd Tim a David, rydan ni'n hollol anhapus gyda'r sefyllfa.  Cawsom
sgwrs danllyd gyda'r penaethiaid cyllid sydd, diolch i'r nefoedd, yn Gymry
Cymraeg - roedden nhw yr un farn a ninnau ond yn mynnu hefyd bod yn rhaid
dilyn geiriad y Cynulliad.  A dyna a wnaed. Gwae ni! Os ydych chi, gyda
llaw, yn byw yng Ngogledd Cymru ac yn derbyn un o'r rhain, peidiwch â'n beio
ni gyfieithwyr druan nad oes neb yn barod i wrando arnom ni!

Gyda llaw, enwau ydi Council a Tax. Nid oes elfen o ansoddair yn agos i'r un
o'r ddau.

John


-----Neges Wreiddiol-----/-----Original Message-----
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran John Williams
cyfieithydd YMLL
Anfonwyd/Sent: 10 February 2005 14:59
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Council Tax

Treth y Cyngor yw'r term a arferir gan Gyngor Wrecsam






Mr John D Williams
Ysgol Morgan Llwyd
Cyfieithydd Ysgol
Sir Wrecsam




______________ ______________ ______________ ______________ Sent via the
WCBC Schools Email system at ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk





* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * *

This e-mail message and any attachments are confidential and intended solely
for the use of the individual or organisation to whom it is addressed.  If
you are not the intended recipient and have received this e-mail in error,
any use, dissemination, forwarding, printing, or copying of it is strictly
prohibited and you are requested to contact the sender and delete the
material from any computer.  Opinions, conclusions and other information in
this message that do not relate to the official business of Wrexham County
Borough Council shall be understood as neither given nor endorsed by it.

Mae'r neges e-bost hon, ac unrhyw ffeil sydd ynghlwm wrthi, yn gyfrinachol
ac fe'i bwriedir ar gyfer yr unigolyn neu'r sefydliad y cyfeiriwyd hi ato.
Os nad chi yw'r derbynnydd priodol ond eich bod wedi derbyn y neges e-bost
hon trwy gamgymeriad, gwaherddir ei defnyddio, ei lledaenu, ei hanfon
ymlaen, ei hargraffu a'i chopio a gofynnir i chi gysylltu a'r sawl a'i
hanfonodd a dileu'r deunydd o bob cyfrifiadur os  gwelwch yn dda.  Dealler
nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhoi na cyn cymeradwyo barn,
casgliadau a gwybodaeth arall sydd yn y neges hon nad yw'n ymwneud a'i
fusnes swyddogol.

* * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * * *
* * * * * *


Ni ddylid trin e-bost ar y rhyngrwyd fel dull diogel o gyfathrebu.  Mae
Heddlu Gogledd Cymru yn monitro'r holl negeseuon e-bost a drosglwyddir ar y
rhyngrwyd yn ogystal â'u cynnwys.

Dim ond er sylw'r sawl y'i cyfeiriwyd hi ato/ati y bwriedir y neges hon.  Os
ydych yn derbyn y neges hon mewn camgymeriad, gadewch i'r sawl a'i gyrrodd
wybod a dilëwch hi oddi ar eich system.   Gall defnyddio neu ddatgelu
cynnwys y neges hon heb ganiatâd fod yn anghyfreithlon. Efallai nad yw'r
farn a fynegir yn y ddogfen yn bolisi swyddogol.  Diolch i chi am eich
cydweithrediad.

Heddlu Gogledd Cymru

Internet e-mail is not to be treated as a secure means of communication.
North Wales Police monitor all Internet e-mail activity and content.

This communication is intended for the addressee(s) only.  Please notify the
sender if received in error and erase from your system.  Unauthorised use or
disclosure of the content may be unlawful, Opinions expressed in this
document may not be official policy.  Thank you for you co-operation.

North Wales Police