Diolch, Magi. Ers imi gael eich neges 'rwyf wedi chwilio gwefannau GIG a PIC heb ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at "Licensed Practitioner" fel y cyfryw - hyd yn oed yn Saesneg. 'Does dim cyfeiriad ar unrhyw dudalennau Prydeinig at "Ymarferydd/Ymarferwyr/Meddyg Trwyddedig" ac mae'r rhan fwyaf o'r cyfeiriadau at "Licensed Practitioner" yn ymwneud a meddygaeth amgen. Dyna ddigon o ymchwil! Mi ddilynaf gyngor Catrin. Hwyl, Ann ----- Original Message ----- From: "teulu lewis" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Thursday, February 10, 2005 1:41 PM Subject: Re: Licensed Practitioner > Mae na restr benodol o beth mae nyrsys yn gallu ei ragnodi - ond does > gen i ddim syniad beth - does dim rhaid i mi gymryd sylw o bethau felly > y dyddiau hyn - gallwch chwilio gwefan y GIG neu Broffesiynau Iechyd > Cymru am restr o'r fath, dybiwn.... > Tybiwn fod y GIG wedi bathu term yn barod......mae na symud ymlaen mawr > wedi digwydd yn y sefydliad hwnnw.... > magi > > ----- Original Message ----- > From: "Catrin Alun" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Thursday, February 10, 2005 12:40 > Subject: Re: Licensed Practitioner > > > > Tybed ydy'r person yma bob amser yn feddyg? Mae gan rai uwch-nyrsys y > > gallu > > i ragnodi weithiau. Os felly, byddai'n well cadw at 'ymarferydd'. > > > > Hwyl > > Catrin > > ----- Original Message ----- > > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Thursday, February 10, 2005 12:33 PM > > Subject: Licensed Practitioner > > > > > >> Sef, doctor, mewn ysbyty fel arfer, sy'n medru rhagnodi heroin i > >> ddibynwyr. > >> Gwelaf "meddyg teulu" ar gyfer GP ar safle Term Cymru "os gellir bod > >> yn > >> hollol siwr mai meddyg teulu a olygir - fel arall 'ymarferydd > >> cyffredinol'. > >> A fyddai "Meddyg Trwyddedig" yn ddigon da, ynteu a ddefnyddir/a > >> ddylid > >> defnyddio rhywbeth arall megis "Ymarferydd Trwyddedig? > >> > >> Diolch yn fawr, > >> > >> Ann > >> > >> > >> -- > >> No virus found in this incoming message. > >> Checked by AVG Anti-Virus. > >> Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.6 - Release Date: 2/7/2005 > >> > >> > > > > > > > > -- > > No virus found in this outgoing message. > > Checked by AVG Anti-Virus. > > Version: 7.0.300 / Virus Database: 265.8.6 - Release Date: 2/7/2005 > > > > >