Print

Print


Sef, doctor, mewn ysbyty fel arfer, sy'n medru rhagnodi heroin i ddibynwyr.
Gwelaf "meddyg teulu" ar gyfer GP ar safle Term Cymru "os gellir bod yn
hollol siwr mai meddyg teulu a olygir - fel arall 'ymarferydd cyffredinol'.
A fyddai "Meddyg Trwyddedig" yn ddigon da, ynteu a ddefnyddir/a ddylid
defnyddio rhywbeth arall megis "Ymarferydd Trwyddedig?

Diolch yn fawr,

Ann