Ffres? --Mark -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dwynwen Berry Sent: 03 February 2005 13:46 To: [log in to unmask] Subject: spontaneous Dwi'n chwilio am rywbeth i gyfleu "spontaneous". Di-gymell sydd yn GyA ond rhywsut tydi hynny ddim yn rhoi yr ystyr sy gen i i'w gyfleu . Y cyd-destun yw "Spontaneous writing" mewn cwrs ysgrifennu creadigol h.y. ysgrifennu sy'n chwydu teimladau a meddyliau allan heb feddwl amdanynt yn gyntaf. Mi fedra i ddefnyddio geiriau fel hyn wrth son am y peth ond mae gen i benawdau -fel "Spontaneous Writing Exercise". Tybed oes gan unryw un syniad am destun galla i defnyddio fel enghraifft o hyn ? Mae'r testun yn y Cwrs Saesneg yn dod o "On the Road" , Jack Kerouac. Dwi ddim o angenrhaid yn chwilio am rywbeth sy'n son am daith - ond am steil sgwennu sy'n debyg yn tywallt y teimladau/ meddyliau allan fel rhyw fath o gyffes bron. Diolch ymlaen llaw Dwynwen