Diolch i chi ac i Berwyn ( ac i eraill os bydd rhai) am eich sylwadau. Rhisiart ----- Original Message ----- From: "Geraint Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Sunday, February 13, 2005 9:19 PM Subject: Re: Council Tax > Rhisiart Hincks <[log in to unmask]>: > > Paham mad arferir 'llythyrdy; bellach? Gair gwych a welid ar fwy o arwyddion > > ac a glywid yn amlach ar lafar ar un adeg, os nad wyf yn camgymryd... Ai > > oherwydd rhyw gamdybiaeth nad yw 'llythyr' yn ddigon i drosi 'post'? > > Nage. Dyma un o ddrwgeffeithiau codi'r Gymraeg i safle swyddogol > yn y byd cyhoeddus. Gair a gododd yn naturiol ar dafod y werin > -- maddeuwch y gair -- ar dafod y cwsmeriaid oedd "llythyrdy", > sef swyddfa leol "y Post", neu'r GPO (y Post Cyffredinol, nid -- > er pob rheswn -- y Llythyrdy Cyffredinol, gan nad oedd o'n dy o > unrhyw fath). Bodolaeth cyfieithiad swyddogol am "The Post Office", > a'r amwysedd yn yr iaith fain rhwng Swyddfa'r Post a'r swyddfa bost > sy'n gyfrifol am ei golli. Is-bostfeistri lleol, ac nid Swyddfa'r > Post, oedd yn rhoi arwyddion Llythyrdy ar lythyrdai. > > Ar y llaw arall, awn ni ddim ar ol safle'r gerbydres. (Gas gen i'r > orfodaeth o enwau tu-chwith yn y drefn Saesneg ar orsafoedd rheilffordd, > er mwyn mae'n debyg, eu cael nhw mewn lle amlwg yn nhrefn y wyddor.)