> Ond mae Term Cymru yn rhoi Y Dreth > Gyngor yn bennaf, er bod Treth y Cyngor hefyd yn ymddangos. Oni fyddai "Treth y Cyngor", fel "y Dreth Cyngor", yn gosod mai biau'r (a bai'r) cyngor yw'r dreth -- yn y modd y dewisodd Thatcher yr enw Saesneg i awgrymu rhywbeth felly -- ond bod "y Dreth Gyngor" yn cyfieithu'r ystyr gwreiddiol Saesneg, mai treth sydd a wnelo rhywbeth a'r cyngor ond nad yw o anghenraid yn perthyn yn gyfangwbl ac uniongyrchol i'r cyngor yw'r dreth? Llywodraeth ganol sydd a'r hawl i godi neu i ddiddymu'r dreth gyngor; gwariant a gofynion llywodraeth ganol sy'n fwyaf gyfrifol am lefel y dreth, ac i llywodraeth ganol y perthyn yr hawl i osod neu diddymu'r dreth. Treth y Llywodraeth yw'r Dreth Gyngor. (Maddeued ymyraeth gwleidyddiaeth, a chywirdeb gwleidyddol, ym manylion yr iaith.)