help!! MAe sawl term ym maes gymnasteg yn peri tipyn o ben tost fan hyn! Oes gan rywun syniad beth yw'r termau Cymraeg (os oes) ar gyfer y canlynol (yng nghyd-destun balansau/cydbwyso): pin,tuck, patches and points. Dw i wedi llwyddo i gael pin, twc (!!) ac rwy'n casglu y byddai 'pwyntiau' yn gwneud y tro am points ond dim syniad am patches - gan nad ydw i'n gallu dod o hyd i esboniad o'r hyn ydyn nhw ond yng nghyd-destun 'balance'. Dw i'n casglu bod pob un ohonynt yn perthyn i faes cydbwyso/balansau - ar ddechrau/diwedd symudiad neu weithred neu naid? Diolch o galon ymlaen llaw eto! Nia