Credaf fod y syniad o god ieithyddol yn deillio o waith y cymdeithasegydd Basil Bernstein. "Bernstein was chiefly concerned with mapping two linguistic codes characteristic of the middle class on the one hand and the lower working class on the other. At first he called these linguistic codes public and formal language, but as his theory develops these are replaced by the terms restricted and elaborated codes" Felly mae cod iaith yn gweithredu o fewn un iaith ('Roedd rhai yn dadlau nad oedd y theori yn berthnasol i'r Gymraeg -- ond 'roedd hyn cyn ddyfodiad llu o gyfeithwyr proffesiynol!). Yn ol Bernstein, echblyg yw cod iaith y dosbarth canol ac ymhlyg yw iaith y dosbarth gweithiol. Yn fy marn i nid yw 'cyfnewid cod' am 'code switching' yn iawn gan mai cyfnewid yn golygu rhoi un peth a derbyn peth arall yn ei le, fel gweithrediad masnachol. Nid yw 'cyfnewid' yn atblygol. Mae 'code switching' yn digwydd o fewn un siaradwr ac o fewn un iaith. Felly newid cod yw'r ystyr. Eric