Print

Print


O ystyried arferion academyddion Cymraeg yn y maes hwn, byddwn i'n tybio na fyddent yn cyfieithu dyfyniadau o weithiau Saesneg gan ysgolheigion eraill, hyd yn oed petai'r ysgolheigion hynny'n Gymry Cymraeg (e.e. wrth ddyfynnu o lyfr yr Athro Geraint Jenkins 'Literature, Religion and Society in Wales 1660-1730').

Yn y gyfrol 'Beirdd a Thywysogion', y gyfrol deyrnged nodedig i'r Athro Geraint Gruffydd, gadewir dyfyniadau yn eu Saesneg gwreiddiol gan Morfydd E Owen - un o'r cyd-olygyddion - ar td 103, gan Catherine McKenna ar td 119 a chan y diweddar Athro Pronsias Mac Cana ar td 138, a byddwn i'n ystyried bod hynny'n gwbl dderbyniol.

Fe âi'r diweddar Athro Caerwyn Williams gam ymhellach a chynnwys yn ei erthyglau ddyfyniadau mewn Ffrangeg ac Almaeneg nid yn unig heb eu trosi i'r Gymraeg ond heb gynnwys cyfieithiadau i helpu'r rhai na fedrent yr ieithoedd hynny. I mi, gan nad oeddwn i erioed wedi dysgu Almaeneg, roedd dod ar draws dyfyniadau yn yr iaith honno yn erthygl yr Athro ar Culhwch ac Olwen (os cofia i'n iawn) yn achos cryn rwystredigaeth ac felly'n gam rhy bell!

Berwyn
  ----- Original Message ----- 
  From: Rhisiart Hincks 
  To: Berwyn Prys Jones 
  Sent: Wednesday, January 19, 2005 9:03 PM
  Subject: Re: Protocol Cyfieithu


  Rhaid imi gytuno â Matthew yma. Rhydd hawdd cael safonau dwbl am fod y Cymry'n ddwyieithog - edrychwch ar ein cyfryngau truenus sy'n britho pob dim â darnau Saesneg cwbl ddiangen!

  Rhisiart
    ----- Original Message ----- 
    From: Matthew Clubb 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Wednesday, January 19, 2005 2:02 PM
    Subject: Re: Protocol Cyfieithu


    Wel, ys gwetws hen Fagi'r Fagddu, 'Lle ma cytuno, deuwn ag anghytuno'



    Rhyfedd yw'r gred y dylid cadw dyfyniadau yn yr 'iaith wreiddiol'. O'm profiad i (cyfyng, rhaid cyfadde), mae dyfyniadau'n cael eu cyfieithu i ieithoedd eraill yn ddidrafferth. 



    A ydyn ni'n cymhwyso'r egwyddor hon yn gyson? Hynny yw, wrth gyfieithu i'r Gymraeg, pe celen ni ddyfyniad o ddogfen llywodraeth Ffrainc neu'r Eidal, a fydden ni'n ei adael yn yr iaith wreiddiol? Neu ife dim ond pan Saesneg yw'r iaith wreiddiol y mae'r egwyddor yn gweithio? Wrth gyfieithu i'r Saesneg, a fydden ni'n gadael dyfyniad o lythyr Cymraeg heb ei gyfieithu? Go brin.



    Pam trin y Gymraeg yn wahanol felly? Diffyg hyder yn y Gymraeg neu ddiffyg hyder yn ein gallu cyfieithu? (Neu ife'r egwyddor fawreddog honno 'ma pawb yn deall Saesneg ta beth'?)


    Wrth gwrs, ma rhai eithriadau (e.e. wrth drafod newidiadau testunol i ddogfen uniaith), ac ma eisiau trin pob achos yn ôl ei gyd-destun. Ond chwilio am resymau da i beidio â chyfieithu dyfyniad y bydda i, ond wedyn quot homines tot sententiae onidfa? Fel arfer bydd troednodyn yn dweud rhywbeth fel 'Lle dyfynnir o ddogfennau sydd heb eu cyfieithu i'r Gymraeg, rydym yn rhoi cyfieithiad answyddogol.' yn gwneud y tro.

      ----- Original Message ----- 
      From: Puw, John 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Monday, January 17, 2005 10:22 AM
      Subject: Protocol Cyfieithu


      Gyfeillion

      Gair o gyngor os gwelwch yn dda.

      Mae gennym gais i gyfieithu dogfen sy'n cynnwys dyfyniadau o lawlyfr yr Adran Trafnidiaeth (DfT) 'Handbook of Rules and guidance for the National Safety Camera Programme for England and Wales for 2005/6'. Os nad oes fersiwn Gymraeg o'r llyfryn dan sylw ar gael, ac rydym wedi methu ei ganfod ar y we, a oes pwrpas neu synnwyr i gyfieithu'r dyfyniadau sydd yng nghorff y ddogfen hon.  Byddai unrhyw un sy'n chwilio am y fersiwn wreiddiol yn y Llawlyfr yn amlwg yn gorfod darllen y Saesneg.  Beth yw'r drefn os gwelwch yn dda.

      Diolch

      John

      Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. 
      Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig. 
      Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, 
      dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda. 
      Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, 
      fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. 
      Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.


      This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
      The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged. 
      It is intended only for the person or entity named above. 
      If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system. 
      If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the 
      intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying 
      of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.