Print

Print


gwe-log, gwe-logiwr, a gwe-logio (efo cysylltnod) sydd yn Atodiad argraffiad diweddaraf GyrA.

Cytunaf efo pwynt cyntaf Muiris, ond hoffwn wneud pwynt arall. 'Taswn i'n mynd yn erbyn y lli a defnyddio "gwe-log", byddai pawb a *rhyw* syniad o'r ystyr, a phawb sy'n gyfarwydd a "bloggers" yn *deall* yr ystyr, hyd yn oed os oedd y gair yn newydd iddynt. Taswn i'n defnyddio "gweflog" ni fyddai neb nad oedd yn gyfarwydd a'r Saesneg yn fy neall. Onid yw'r Gymraeg yn iaith sy'n medru sefyll ar ei phen ei hun, yn hytrach na bod yn ddim ond cyfieithiad o'r Saesneg?

Ann
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Muiris Mag Ualghairg
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, December 23, 2004 11:32 AM
Subject: Re: weblog / blog

1)           "Dalier sylw! --

               Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1615:

               gweflog: A chanddo weflau mawr/cyriog/gwefldew (large-lipped/blubber-lipped/thick-lipped)"

Mae geiriau newydd yn cael eu creu o bryd i'w gilydd sy'n debyg i eiriau eraill - cofnodi'r hyn sy'n digwydd oeddwn i, nid, o reidrwydd, yn canmol y gair.

2)           "O le mae'r 'f' yn 'gweflog' yn dod?  Tarddiad y Saesneg yw 'web' + 'log' = cofnod manwl o daith neu ddigwyddiadau.  O gyfieithu 'web' a chadw'r ail elfen yn Saesneg, 'gwe-log'a geir, nid 'gweflog'"

O ran y 'f' yn gweflog - buaswn i'n tybio mai o 'gwe +blog' y daeth yn wreiddiol. Yn bersonol, cytunaf nad yw 'Gweflog' yn berffaith ond nid fi sy'n dewis y geiriau y mae pobl yn eu defnyddio!

3)        "a 299 o enghreifftiau o 'Gweflog'. Ac mae dros 3,000 o enghreifftiau o Gwelog (ddim i gyd yn cyfeirio at Flogiau ar y We, ond eto)"

Gwn i Geraint awgrymu 'Gwelog' o'r blaen (gweler cofnodion Welsh Termau Cymraeg 19 Mai 2002) ac i Nic Dafis ateb drwy ddweud

"Mae'n rhy hwyr, mae'r ffeirws wedi dechrau ymledu!" 
 
Efallai y dylwn i fod wedi edrych i weld a yw 'Gwelog' yn cael ei ddefnyddio neu beidio. Er bod dros 3,000 o enghreifftiau o Gwelog yn Google - fe welir mai dim ond 16 o dudalennau sydd yno mewn gwirionedd ac nid yw'r rheiny i gyd yn berthnasol i'r Gymraeg.  Wrth ddefnyddio Google dylid cofio ei fod yn cofnodi pob enghraifft o ddefnydd gair ond wedyn yn hepgor rhai sydd mewn gwirionedd yr un peth a dyna pam mai dim ond 16 o dudalennau sy'n ymddangos, ac mae'r rhan fwyaf o'r rheiny ar yr un wefan - sef CyfleCymru/opportunitywales. Ar ddiwedd yr ail dudalen o enghreifftiau Google mae'n nodi'n glir "Er mwyn dangos y canlyniadau mwyaf perthnasol, fe adawyd allan y rhai tebyg i'r 16 ddangoswyd yn barod...".
 
Nadolig llawen i bawb,
 
Muiris (sy'n mynd i wneud ei siopa Nadolig y prynhawn yma!)


No virus found in this outgoing message.
Checked by AVG Anti-Virus.
Version: 7.0.298 / Virus Database: 265.6.4 - Release Date: 22/12/2004