Print

Print

Diolch Berwyn hefyd.
 
Wedi gweld gwefan y DfT (nid fi sy'n cyfieithu'r ddogfen, a doeddwn i heb edrych tan ar ôl anfon y neges), a fyddwn i'n synnu dim gweld cyfieithiad yn y dyfodol agos.  Mae'n ymddangos eu bod yn cyfieithu llawer o bethau, ond mae'n ddyddiau cynnar ar y ddogfen hon, mae'n amlwg. 
 
Fe gysylltwn â'r cwsmer i gael gwybod be mae hi'n ei feddwl.
 
Hwyl
 
John

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Berwyn Jones
Anfonwyd/Sent: 17 January 2005 10:55
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Protocol Cyfieithu

Rwyf newydd weld sylwadau Glenys a Tim, a hynny ar ôl ysgrifennu'r isod, ond dyma fy sylwadau i:
 
Go brin bod protocol yn bod ynghylch hyn, ond mae dau bosibilrwydd o leiaf, sef:
 
i) cadw'r dyfyniadau yn Saesneg, a
 
ii) cyfieithu'r dyfyniadau gan ddatgan yn glir mai cyfieithiadau answyddogol ydyn nhw drwy ddefnyddio ymadrodd tebyg i:
 
1.' Dyma gyfieithiad o'r paragraff perthnasol: ...'
 
2. Ar ddiwedd y dyfyniad, yn enwedig os nodir rhif y paragraff a/neu'r dudalen: '(trosiad o bara. 4 ar dudalen 8)'.
 
O ran p'un a ddylid cyfieithu neu drosi dyfyniadau, fy nhuedd i fyddai cadw'r Saesneg gwreiddiol - a byddai angen dadl gref iawn arna i i'm darbwyllo i gyfieithu dyfyniad neu ddyfyniadau o ddogfen swyddogol. Wedi dweud hynny mae ambell gyd-destun prin iawn (a llai swyddogllyd) wedi codi lle'r oeddwn i'n tybio bod y cyfieithiad cyfan yn darllen yn well o gyfieithu dyfyniad.
 
Berwyn
 
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Puw, John
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys Jones
Sent: Monday, January 17, 2005 10:22 AM
Subject: Protocol Cyfieithu

Gyfeillion
 
Gair o gyngor os gwelwch yn dda.
 
Mae gennym gais i gyfieithu dogfen sy'n cynnwys dyfyniadau o lawlyfr yr Adran Trafnidiaeth (DfT) 'Handbook of Rules and guidance for the National Safety Camera Programme for England and Wales for 2005/6'. Os nad oes fersiwn Gymraeg o'r llyfryn dan sylw ar gael, ac rydym wedi methu ei ganfod ar y we, a oes pwrpas neu synnwyr i gyfieithu'r dyfyniadau sydd yng nghorff y ddogfen hon.  Byddai unrhyw un sy'n chwilio am y fersiwn wreiddiol yn y Llawlyfr yn amlwg yn gorfod darllen y Saesneg.  Beth yw'r drefn os gwelwch yn dda.
 
Diolch
 
John

Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru.
Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn gyfreithiol freintiedig.
Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad,
dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch yn dda.
Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig,
fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif.
Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon.

This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the view of North Wales Police.
The information contained in this communication is confidential. It may be legally privileged.
It is intended only for the person or entity named above.
If you have received this e-mail in error please notify originator and erase this e-mail from your system.
If you are not the intended recipient or the employer or agent responsible for delivering it to the
intended recipient, you are hereby notified that any use, review, dissemination, distribution or copying
of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful.