Dw i'n mynd i ffwrdd ar ol cinio, ac er y caf godi negeseuon, fydd ddim cyfeirlyfrau gen i, felly taflaf yr holl wybodaeth sydd gennyf atoch yn sydyn rhag ofn ei fod yn gymorth, a chan gobeithio bod 'na rywun arall yn y grwp a'r un llyfrau. Posibiliadau - ffonio Amgueddfa Werin Cymru (beth bynnag yw'r enw cywir rwan); cael hyd i Huw Jones, awdur Cydymaith Byd Amaeth, ffonio'r NFU neu'r UAC a chael enw rhywun i helpu. Edrycher yn llyfr Alan Thomas, The Linguistic Geography of Wales. Balling iron - Ni wn beth yw'r Gymraeg amdano, ond mae gen i un yn yr atig! Rhyw fath ar ffram i gadw ceg ceffyl yn agored tra 'dych chi'n rhoi'ch braich trwy'r twll yn y canol er mwyn gwthio'r bilsen i lawr. Mae wedi'i wneud o haearn, gyda choes bren, ond dydy o ddim byd tebyg i haearn smwddio! Mae "balling gun" yn "Termau Amaethyddiaeth a Milfeddygaeth" - teclyn pils(i)o, gwn pils(i)o. Byddwn i'n meddwl y byddai "teclyn pils(i)o yn gwneud y tro yn niffyg dim byd arall, ac mae Bruce yn dweud y byddai "haearn pilsio" yn iawn os na allech ddarganfod beth sydd/oedd ar lafar. Horn trainer - Saddle-back harrow - Sonnir am sawl math ar "og" yn "Cydymaith Byd Amaith" - og bigau, og ddannedd, og ddisg, og ddrain, og ddril, og gadwyn, og haearn, ayb ond 'does dim amser gen i i ddarllen y disgrifiadau a dyw hi ddim yn swnio o'r enwau fel petai un ohonynt yn hollol addas. Efallai bydd yn rhaid cael disgrifiad y peth yn Saesneg ar y we a dyfeisio rhywbeth. Turn wrest plough - yn yr un ffordd mae tudalennau o erydr yn "CBA". Byddai'n rhaid cael disgrifiad manwl Saesneg a'i gymharu a'r gwahanol ddisgrifiadau. Mae aradr fantol/aradr "turn-over" yn swnio'n bosibl. Aurox - Mae "aurochs" yng NGyr A, fel bual(od) mawr, ych(en) hirgorn. O'r cyd-destun dw i'n dyfalu a oes camgymeriad sillafu, a rhywun yn meddwl bod y gair yn ymwneud ag "ox"?? Pob lwc! Ann ----- Original Message ----- From: ifan glyn Jones To: [log in to unmask] Sent: Saturday, January 08, 2005 9:11 AM Subject: [spam-hx] termau amaethyddol Tybed oes yna rhywun yn gwybod yr enwau Cymraeg, tafodiaith Sir Aberteifi os yn bosib, am y canlynol? balling iron, ox-pit, horn trainer, saddle-back harrow a turn wrest plough ac oes yna rywun yn gyfarwydd 'r gair aurox? Yn falch o untrhyw gymorth Diolch Ifan Glyn