Ysywaeth, gwae fi ac ochon - mae un o'r cathod wedi cychwyn ar fy ngeiriadur Eidaleg i - dwn i ddim pa un, ddalis i mo'r cena/gnawas wrthi hi - wedi llarpio o Peace Corps i pork chop. Ann - rhag i mi gael drwg gin ti a Bruce am iwsio selotep eto - lle mae cael y stwff arbennig i drwsio llyfr? Nid yng nghefn gwlad Abruzzo mi wranta. Annes