Llynedd ysgrifennais, mewn ffordd amaturaidd iawn, ychydig gyfarwyddiadau ar weithio gyda ffeiliau "Word" ar gyfer ein dosbarth cyfieithu. Cefais dipyn o drafferth wrth ddisgrifio "highlighting/selecting" darn o destun, gan newid o "dewis" i "oleuo" (dylwyn fod wedi defnyddio "aroleuo" mae'n debyg) i "amlygu". O leiaf mae'n air mwy cyfarwydd i bobl sy'n boddi mewn mo^r o dermau newydd. Os nad yw'r term "cywir", mae'n ddisgrifiad dilys. Un peth yn erbyn aroleuo, yn o^l dull y rhan fywaf o bobl o drefnu lliwiau ei sgrin, yw bod "duo" yn ddisgrifiad mwy cywir o'r hyn mae rhywun yn ei wneud i'r darn o destun. Ann ----- Original Message ----- From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, December 31, 2004 3:18 PM Subject: Re: highlighting > > "Amlygu" sydd gan Microsoft yn fersiwn Cymraeg Word, ac os bydd y Microsoft > > Cymraeg yn lledu fe fydd eu dewis ffurfiau nhw yn dod yn ddylanwadol iawn > > wrth gwrs. > > Gobeithio ddim, achos mae na lot o bethau hyll ynddo. > > Efallai fod amlygu yn derm sydd wedi croesi o ddefnydd cyffredinol i > ddefnydd technegol (anghywir). Mae Google yn dangos nifer o > enghreifftiau lle mae rhywun wedi cyfieithu 'highlight the > problems/issues/opportunities' i 'amlygu' yn hytrach na dweud 'taflu > golau ar', 'datgelu', 'amlinellu', 'esbonio' neu unrhyw drosiad arall > sy'n gwneud synnwyr. > >