"Lot o bethau hyll" - fel be yn benodol?? Dwi'n gweld amlygu yn air llawer gwell nag "aroleuo" - gan ei fod yn air y gall pawb ei ddeall, a be ydach chi'n wneud ond amlygu'r testun? Mae malu cachu am enghreifftiau yn Google o 'highlight the problems' ac ati yn gwbwl amherthnasol i'r cwestiwn beth bynnag; ddaru neb gynnig 'amlygu' fel cyfieithiad yn yr achos hwnnw. Geraint (O .... a blwyddyn newydd dda !) ----- Original Message ----- From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, December 31, 2004 3:18 PM Subject: Re: highlighting > > "Amlygu" sydd gan Microsoft yn fersiwn Cymraeg Word, ac os bydd y Microsoft > > Cymraeg yn lledu fe fydd eu dewis ffurfiau nhw yn dod yn ddylanwadol iawn > > wrth gwrs. > > Gobeithio ddim, achos mae na lot o bethau hyll ynddo. > > Efallai fod amlygu yn derm sydd wedi croesi o ddefnydd cyffredinol i > ddefnydd technegol (anghywir). Mae Google yn dangos nifer o > enghreifftiau lle mae rhywun wedi cyfieithu 'highlight the > problems/issues/opportunities' i 'amlygu' yn hytrach na dweud 'taflu > golau ar', 'datgelu', 'amlinellu', 'esbonio' neu unrhyw drosiad arall > sy'n gwneud synnwyr.