1)           "Dalier sylw! --

               Geiriadur Prifysgol Cymru, tud. 1615:

               gweflog: A chanddo weflau mawr/cyriog/gwefldew (large-lipped/blubber-lipped/thick-lipped)"

Mae geiriau newydd yn cael eu creu o bryd i'w gilydd sy'n debyg i eiriau eraill - cofnodi'r hyn sy'n digwydd oeddwn i, nid, o reidrwydd, yn canmol y gair.

2)           "O le mae'r 'f' yn 'gweflog' yn dod?  Tarddiad y Saesneg yw 'web' + 'log' = cofnod manwl o daith neu ddigwyddiadau.  O gyfieithu 'web' a chadw'r ail elfen yn Saesneg, 'gwe-log'a geir, nid 'gweflog'"

O ran y 'f' yn gweflog - buaswn i'n tybio mai o 'gwe +blog' y daeth yn wreiddiol. Yn bersonol, cytunaf nad yw 'Gweflog' yn berffaith ond nid fi sy'n dewis y geiriau y mae pobl yn eu defnyddio!

3)        "a 299 o enghreifftiau o 'Gweflog'. Ac mae dros 3,000 o enghreifftiau o Gwelog (ddim i gyd yn cyfeirio at Flogiau ar y We, ond eto)"

Gwn i Geraint awgrymu 'Gwelog' o'r blaen (gweler cofnodion Welsh Termau Cymraeg 19 Mai 2002) ac i Nic Dafis ateb drwy ddweud

"Mae'n rhy hwyr, mae'r ffeirws wedi dechrau ymledu!" 
 
Efallai y dylwn i fod wedi edrych i weld a yw 'Gwelog' yn cael ei ddefnyddio neu beidio. Er bod dros 3,000 o enghreifftiau o Gwelog yn Google - fe welir mai dim ond 16 o dudalennau sydd yno mewn gwirionedd ac nid yw'r rheiny i gyd yn berthnasol i'r Gymraeg.  Wrth ddefnyddio Google dylid cofio ei fod yn cofnodi pob enghraifft o ddefnydd gair ond wedyn yn hepgor rhai sydd mewn gwirionedd yr un peth a dyna pam mai dim ond 16 o dudalennau sy'n ymddangos, ac mae'r rhan fwyaf o'r rheiny ar yr un wefan - sef CyfleCymru/opportunitywales. Ar ddiwedd yr ail dudalen o enghreifftiau Google mae'n nodi'n glir "Er mwyn dangos y canlyniadau mwyaf perthnasol, fe adawyd allan y rhai tebyg i'r 16 ddangoswyd yn barod...".
 
Nadolig llawen i bawb,
 
Muiris (sy'n mynd i wneud ei siopa Nadolig y prynhawn yma!)