Diolch Dafydd, ond yn anffodus yr hyn sydd yn y gyfrol (gwerslyfr ffiseg Safon Uwch) yw "reductionism" ar ffurf yr hyn a elwir yn 'air allweddol' mewn print bras, ynghyd â diffiniad ohono. Felly mae angen term, a "rhydwythiaeth" sydd yn y cyfieithiad. Dydy rhydwythiaeth ddim yn swnio'n iawn i mi (a dydy "ad-ddygedd" ddim yn goglais fy nychymyg chwaith, ond diolch i chi Gareth am dynnu fy sylw ato). Cyn mynnu bod myfyrwyr 6ed dosbarth yn trafod "rhydwythiaeth" hoffwn fod yn dawel fy meddwl fod gan y term Cymraeg yma sail gadarn nad yw ond yn deillio o rydwytho mewn cemeg. Os na, ac fel dewis arall, gan mai "fformiwla ostwng" yw "reduction fformula" yng nghyd-destun mathemateg, tybed a fyddai "gostyngiaeth" yn cyfleu'r ystyr gan fod naws fathemategol i'r syniad o symleiddio prosesau cymhleth? ----- Original Message ----- From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Tuesday, December 07, 2004 12:24 AM Subject: Re: Rhydwythiaeth Fyddai ymadrodd megis "ymdrin [a'r pwnc] yn ddadansoddol" yn well na "rhydwythiaeth"? On Mon, 6 Dec 2004 15:04:21 -0000, Huw Roberts <[log in to unmask]> wrote: >Gwelaf mai rhydwythiaeth yw reductionism yng Ngeiriadur yr Academi ond tybed pwy sy'n gyfarwydd â defnyddio'r term yma i ddisgrifio'r broses o edrych ar y byd yn y modd mwyaf syml posibl, gan edrych yn aml ar rannau o system gan fod y system gyfan yn rhy gymhleth. >Dw i'n gyfarwydd â rhydwytho yng ngyd-destun adweithiau cemegol (rhydwytho/ocsidio). Sylwaf mai tri chyfeiriad sydd ar Google (yn deillio o gyfeithu trwy droi at y Geiriadur efallai). >Unrhyw arweiniad pellach? >Huw >