Print

Print


Fel wi'n deall pethau (ac wi'n cyfieithu'n aml i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, yr Adran o'r Llywodraeth sy'n gyfrifol am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth) mae shwt beth i'w gael â "data subject" (sef enw'r gyfraith ar rywun sy'n destun cofnod mewn ffeil).
 
Mae'r "data subject" yn cael gwneud cais i'r sawl sy'n cadw'r ffeil (y "data controller") am gael gweld yr wybodaeth amdano sydd yn y ffeil. Yr enw ar y cais yma yw'r "subject access request", am fod "subject" yr wybodaeth yn gwneud cais am gael "access" i'r wybodaeth honno.
 
I roi hynny yn Gymraeg ... mae testun y cofnod yn gwneud cais am gael gweld y cofnod. Mewn pennawd, fe fyddwn i'n cynnig "cais testun am gael gweld gwybodaeth" i gyfleu "subject access request".
 
Mae hyn yn enghraifft dda lle mae'n rhaid ichi gael esboniad gan y cwsmer a deall y cefndir cyn gwneud cynnig dibynadwy.
 
Camgymeriad felly yw meddwl yn nhermau'r dinesydd. Does ond rhaid ichi feddwl am ffoaduriaid a ffeiliau'r heddlu a'r Swyddfa Gartref i weld nad oes rhaid ichi fod yn ddinesydd i fod yn destun cofnod mewn ffeil!
 
 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of CS.Translator
Sent: 22 December 2004 16:21
To: David Bullock
Subject: Re: subject access request

Mi wnes i weld Cais Mynediad Dinesydd a defnyddio hwnnw.
Mae'n debyg mai gwneud cais fel dinesydd y mae rhywun wrth wneud cais o'r fath.
 
Menna

From: Eldred Bet [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 22 December 2004 16:02
To: [log in to unmask]
Subject: subject access request

Mae’r uchod yn ymwneud â Rhyddid Gwybodaeth ac mae ‘na enghreifftiau o

cais mynediad – testun – testunol – pwnc – gwrthrych i’w gweld ar gwgl.

 

Pa un o’r rhain (os o gwbl) sy’n gywir neu os yna gynnig arall gan rywun?

 

Diolch ymlaen llaw a Nadolig Llawen i chi gyd.

 

Bet

 


**********************************************************************
Mae'r wybodaeth sydd yn y neges e-bost hon ac unrhyw
ffeiliau a drosglwyddir gydag hi yn gyfrinachol a gall fod yn
gyfreithiol freintiedig. Dim ond i'r sawl/rhai a enwir uchod y'i
bwriedir. Os nad chi yw'r derbynydd a fwriedir fe'ch hysbysir
eich bod wedi derbyn e-bost mewn camgymeriad ac na
chaniateir datgely, copio, lledaenu neu weithredu ar sail
cynnwys yr e-bost a'r hyn sydd ynghlwm, ac y gallai hynny
fod ynanghyfreithlon. Os nad chi yw'r derbynydd a fwriedir
rhowch wybod i'r sawl a'i hanfonodd ar unwaith.
**********************************************************************
The information contained in this e-mail message and any
files transmitted with it is confidential and may be legally
privileged. It is intended only for the addresse/'s. If you
are not the intended recipient you are advised that you
have received the e-mail in error and that any disclosure,
copying, distribution or action taken in reliance on the
contents of the e-mail and it's attachments is strictly
prohibited and may be unlawful. Please advise the sender
immediately if you are not the intended recipient.
**********************************************************************