Gwelaf mai rhydwythiaeth yw reductionism yng Ngeiriadur yr
Academi ond tybed pwy sy'n gyfarwydd â defnyddio'r term yma i ddisgrifio'r
broses o edrych ar y byd yn y modd mwyaf syml posibl, gan edrych yn aml ar
rannau o system gan fod y system gyfan yn rhy gymhleth.
Dw i'n gyfarwydd â rhydwytho yng ngyd-destun adweithiau
cemegol (rhydwytho/ocsidio). Sylwaf mai tri chyfeiriad sydd ar Google (yn
deillio o gyfeithu trwy droi at y Geiriadur efallai).
Unrhyw arweiniad pellach?
Huw