----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn JonesTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Thursday, December 16, 2004 6:27 PMSubject: Re: DeburringDoes dim term Cymraeg amdano hyd y gwn i, ond mae sawl term ar gyfer 'burr' a 'to burr' mewn gwahanol restri:1. Y Termiadur Ysgol: i. burr (in timber) = bwr (coed), ii. burr (of scraper) = min (sgrafell), iii. burr (on metal or paper) - ymyl arw;2. Geiriadur yr Academi: ymyl [g]arw, garwedd, bwr, ond 'gwalcio' am 'to burr a nail/bolt - yn ôl Geiriadur y Brifysgol, 'taro' yw ystyr 'gwalcio' ac mae'n fenthyciad o 'to walk' ...;3. Termau Gwaith Metel CBAC: i. burr (in timber) = bwr (coed), ii. burr (of chisel) - bwr, a iii. burr (of scraper) = min (sgrafell);4. Yn yr eirfa ar ddiwedd y llyfr 'Gwaith Metel' gan Evan T Parry, a gyhoeddwyd gan D Brown a'i Feibion Y Bontfaen (di-ddyddiad, ond fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau Cymraeg CBAC a'i bris oedd £1.60, sy'n awgrymu ei fod yn eithaf hen), ceir 'bwr' am 'burr'.Rwy'n credu, felly, fod o leiaf ddau ddewis, sef:1. 'rhoi bwr ar' am 'to burr' a 'tynnu('r) bwr oddi ar' am 'to debur'; neu2. bathu'r ferf 'bwrio' am 'to burr' (er bod y ffurf cyntaf unigol presennol 'bwriaf' hefyd yn ffurf cyntaf unigol presennol o 'bwrw' ), ac er cymaint fyddai apêl 'gwalcio' a 'dadwalcio', efallai mai doethach fyddai defnyddio 'dadfwrio' am 'to deburr' (gan roi'r ferf Saesneg mewn print italig rhwng cromfachau ar ei ôl y tro cyntaf y caiff ei ddefnyddio).Efallai y gwnâi 'hogi' neu 'lyfnhau' y tro hefyd. Mae'n dibynnu pa mor fanwl-gywir y mae angen bod.Berwyn----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Non LewisTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Berwyn Prys JonesSent: Thursday, December 16, 2004 4:54 PMSubject: DeburringAnnwyl Gyfeillion
Yn Saesneg ystyr deburring yw A method whereby the raw slit edge of metal is removed by rolling or filing.
A oes Term Cymraeg?
Diolch
Non
Whatever you Wanadoo
This email has been checked for most known viruses - find out more here