Does dim term Cymraeg amdano hyd y gwn i, ond mae
sawl term ar gyfer 'burr' a 'to burr' mewn gwahanol restri:
1. Y Termiadur Ysgol: i. burr (in timber) = bwr
(coed), ii. burr (of scraper) = min (sgrafell), iii. burr (on metal or
paper) - ymyl arw;
2. Geiriadur yr Academi: ymyl [g]arw, garwedd, bwr,
ond 'gwalcio' am 'to burr a nail/bolt - yn ôl Geiriadur y Brifysgol, 'taro' yw
ystyr 'gwalcio' ac mae'n fenthyciad o 'to walk' ...;
3. Termau Gwaith Metel CBAC: i. burr (in
timber) = bwr (coed), ii. burr (of chisel) - bwr, a iii. burr (of scraper)
= min (sgrafell);
4. Yn yr eirfa ar ddiwedd y llyfr 'Gwaith
Metel' gan Evan T Parry, a gyhoeddwyd gan D Brown a'i Feibion Y Bontfaen
(di-ddyddiad, ond fe'i cyhoeddwyd dan nawdd Cynllun Gwerslyfrau Cymraeg CBAC a'i
bris oedd £1.60, sy'n awgrymu ei fod yn eithaf hen), ceir 'bwr' am
'burr'.
Rwy'n credu, felly, fod o leiaf ddau ddewis,
sef:
1. 'rhoi bwr ar' am 'to burr' a 'tynnu('r) bwr oddi
ar' am 'to debur'; neu
2. bathu'r ferf 'bwrio' am 'to burr' (er bod y
ffurf cyntaf unigol presennol 'bwriaf' hefyd yn ffurf cyntaf unigol
presennol o 'bwrw' ), ac er cymaint fyddai
apêl 'gwalcio' a 'dadwalcio', efallai mai doethach fyddai defnyddio 'dadfwrio'
am 'to deburr' (gan roi'r ferf Saesneg mewn print italig rhwng cromfachau
ar ei ôl y tro cyntaf y caiff ei ddefnyddio).
Efallai y gwnâi 'hogi' neu 'lyfnhau' y tro hefyd.
Mae'n dibynnu pa mor fanwl-gywir y mae angen bod.
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Thursday, December 16, 2004 4:54
PM
Subject: Deburring
Annwyl Gyfeillion
Yn Saesneg ystyr deburring yw A method whereby the raw slit edge of
metal is removed by rolling or filing.
A oes Term Cymraeg?
Diolch
Non
Whatever you Wanadoo
This email has been checked for most known
viruses - find out more here