On Wed, Dec 15, 2004 at 12:02:45PM -0000, Geraint Løvgreen wrote: > wel, a derbyn y ddadl yma fasen ni i gyd yn deud "post ar y rhyngrwyd" yn > lle e-bost! 'Internet Mail' _yw'r_ term technegol. Roedd angen bathu term ar gyfer 'post electronig' am ei fod yn beth mor wahanol i bost cyffredin ac ar y pryd doedd y rhyngrwyd ddim yn bodoli a roedd rhwydweithio cyfrifiaduron yn rywbeth newydd iawn hefyd. Does dim angen (i'r saeson) fathu termau ar gyfer pethau sy'n bodoli yn haniaethol mewn pob math o gyfryngau yn barod e.e. marchnata, busnes, trosedd.