Felly, mae'n RHAID i ni gael gwybod rwan pwy oedd Gweni?? magi ----- Original Message ----- From: "Gwenllian Williams" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, December 01, 2004 08:56 Subject: Re: cheesy > Dwi wedi bod yn darllen y negeseuon am y term 'gweni' efo diddordeb mawr. > Mi oedd y gair yma yn air poblogaidd iawn rhyw ddeng mlynedd yn ol, pan > oeddwn i yn yr ysgol uwchradd yng Nghaernarfon. Fel sydd wedi'i ddweud > eisoes, roedd yn cael ei ddefnyddio am unrhyw beth oedd yn hen ffasiwn neu > ddim yn 'cool'. > Roeddwn i wastad wedi meddwl ei fod yn rhywbeth nodweddiadol o Gaernarfon, > ac yn fwy na hynny, o gyfnod penodol, achos dwi ddim wedi'i glwed yn cael ei > ddefnyddio ers blynyddoedd, felly roedd yn ddiddorol iawn clwed fod pobl o > ardaloedd eraill wedi bod yn ei ddefnyddio hefyd. > Digwydd bod, mi nes i drafod y gair ma efo fy chwaer heno a doedd hi ddim yn > cofio ei ddefnyddio o gwbl, er mai dim ond blwyddyn yn hyn na mi ydi hi. (a > minna'n meddwl mai allan o sbeit y dechreuodd hi fy ngalw i'n Gweni o gwmpas > yr un adeg!) > > Gwenllian Williams > > > ----- Original Message ----- > From: "teulu lewis" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, December 01, 2004 7:17 PM > Subject: Re: cheesy > > > > Ac yr oedd rhai ohonom yn yr ysgol yn y 50au a'r 60au a heb deledu o > > gwbl tan tua 1970.........ac ni chlywais i erioed y gair "Gwenni" ma yng > > Nghaernarfon y cyfnod hwnnw.....ond doedd na ddim Gwennis yn dre bryd > > hynny, ta beth.....roeddem i gyd yn smart iawn..... > > > > yn hen a thrist > > magi > > ----- Original Message ----- > > From: "Puw, John" <[log in to unmask]> > > To: <[log in to unmask]> > > Sent: Wednesday, December 01, 2004 02:26 > > Subject: Re: cheesy > > > > > > Sori Dafydd - 'dw i'n anffodus yn rhy hen i gofio Blue Peter yn 1981! M > > > > Mae dy ddymcaniaeth mai gair oedd merched yn ei ddefnyddio yn sicr yn > > gwneud synnwyr - ond roedd y tair yma yn yr ysgol yn y 70au - nid yr > > 80au! A doedd yr un o'r tair wedi ei glywed ers blynyddoedd lawer nes i > > mi godi'r pwnc y bore 'ma. > > > > John > > > > -----Original Message----- > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Tomos > > Sent: 01 December 2004 14:23 > > To: [log in to unmask] > > Subject: Re: cheesy > > > > Fe 'sgrifennodd Megan: > > > Wedi byw yn y cyffiniau yma, Bangor a Bethesda, am bron i ddeugain > > > mlynedd a gweithio yng Nghaernarfon am sbel ond chlywes i rioed am > > "Gwenni". > > > > Efallai ei fod e'n air o gyfnod arbennig. Mae'r drafodaeth am y gair yma > > wedi dod ntl ac atgofion o'r ysgol ym Mangor yn yr 80au. > > Y merched oedd yn defnyddio'r gair yn bennaf. > > > > Dyfalu ydw i, ond mae'r math yma o beth yn gallu deillio o unigolyn > > (athrawes?) neu o gymeriad mewn llyfr plant. Tebyg i'r anffodus Joey > > Deacon (i bawb sydd o oedran i gofio apjl Blue Peter yn 1981). > > > > > > Nid yw'r e-bost hwn nag unrhyw ffeiliau a drosglwyddir gydag ef o > > angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn Heddlu Gogledd Cymru. > > Mae'r wybodaeth sydd yn y ddogfen hon yn gyfrinachol. Fe all fod yn > > gyfreithiol freintiedig. > > Bwriedir yr e-bost ar gyfer y person neu'r sefydliad a enwir uchod. Os > > derbyniwyd yr e-bost hwn trwy gamgymeriad, > > dylid hysbysu'r anfonydd a dileu'r e-bost oddi ar eich system os gwelwch > > yn dda. > > Os mai nid i chi y bwriadwyd ef ac nid chi yw'r cyflogwr na'r asiant > > sy'n gyfrifol am roi'r e-bost i'r derbynnydd bwriadedig, > > fe'ch hysbysir gan hyn na chaniateir i chi ddefnyddio, adolygu, > > lledaenu, dosbarthu na chopio'r e-bost ar unrhyw gyfrif. > > Fe all fod gwneud hynny yn anghyfreithlon. > > > > > > This e-mail and any files transmitted with it are not necessarily the > > view of North Wales Police. > > The information contained in this communication is confidential. It may > > be legally privileged. > > It is intended only for the person or entity named above. > > If you have received this e-mail in error please notify originator and > > erase this e-mail from your system. > > If you are not the intended recipient or the employer or agent > > responsible for delivering it to the > > intended recipient, you are hereby notified that any use, review, > > dissemination, distribution or copying > > of the e-mail is strictly prohibited. To do so may be unlawful. > > > >