Roeddwn i'n meddwl mai enw cynnull (mass noun) yw 'ymarfer' yma h.y. ymarfer o'i gyferbynnu a^ theori. Mae arfer (lluosog: arferion) yn amlwg yn enw rhif (count noun) h.y. mae modd cael mwy nag un ohonynt, felly 'ymarfer da' yw'r corff cyfan o weithredu mewn ffordd gywir, mae 'arfer da' yn un enghraifft benodol o hynny. Hollti blew mae'n siwr! Delyth Ysgrifennodd Sylvia Prys Jones: >..yng ngyd-destun gwaith cymdeithasol. Beth yn union ydi'r gwahaniaeth rhwng >'arfer' ac 'ymarfer', os oes yna wahaniaeth? Er enghraifft, mae Termau >Gwaith a Gofal Cymdeithasol yn rhoi 'ymarfer da' ond 'arfer gorau'. > >Diolch > >Sylvia. > > >--- >Outgoing mail is certified Virus Free. >Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). >Version: 6.0.808 / Virus Database: 550 - Release Date: 08/12/2004 > > >