A fyddai "i'r dim" yn rhy hen ffasiwn? Yma yn y de mae'n bosib y
gellid defnyddio rhywbeth fel 'reit i wala' ond dwi ddim yn siwr faint
o bobl ifainc fyddai'n defnyddio'r ymadrodd yn naturiol.
Y broblem gyda chyfieithu pethau "ieuenctid" am wn i yw bod eu hiaith yn
symud ymlaen mor glou, gall gair fod yn hollol ffasiynnol am gyfnod ac erbyn i
ni hen bobl (sef pawb dros 21 oed) ddod i wybod amdano mae wedi diflannu megis
eira ddoe.
Pob lwc