Print

Print


Mae'r sefyllfa gydag enwau 'gaeleg' a 'gwyddeleg' yn wahanol i sefyllfa'r 
rhan fwyaf o ieithoedd eraill yn y byd - roedd ein henwau wedi'u gwahardd a 
tan yr wyth degau roedd rhaid defnyddio 'enw Saesneg' yn hytrach na rhai 
Gwyddeleg yng Ngogledd Iwerddon.  Mae hyn yn golygu bod gan bawb ddwy 
fersiwn ar yr enw yn Iwerddon.  Er mai Muiris ydwyf - Maurice ydwyf at 
bwrpasau Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru gan mai Maurice benderfynais i ei 
ddefnyddio yng nghyfeirlyfr y Gymdeithas.  Roedd ewythr gennyf i a Séamas 
oedd ei enw ond yn swyddogol 'James' oedd e.  I mi mae'r sefyllfa hon yn 
'naturiol' yng nhgyd-destun yr ieithoedd hyn er yn ffrwyth imperialaeth 
'Brydeinig'.

Muiris


----- Original Message ----- 
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, November 13, 2004 1:19 PM
Subject: Re: yn ogystal


Rwy'n cytuno bod 'hefyd' yn swnio'n fwy naturiol. Mae'n siŵr mai 'In 
addition' neu 'Additionally' oedd yn y gwreiddiol, ie? Mae'n rhaid bod y 
cyfieithydd yn meddwl felly bod rhaid defnyddio rhywbeth heblaw 'hefyd' yn y 
cyfieithiad am ryw reswm. Gallai fod wedi ychwanegu 'â hynny' ar ôl 'Yn 
ogystal' gan y byddai hynny'n golygu mwy o arian eto i'r sawl sy'n codi yn 
ôl nifer y geiriau yn y cyfieithiad terfynol yn hytrach nag yn y ddogfen 
wreiddiol! Yr unig adeg y byddaf i'n codi yn ôl nifer y geiriau yn y 
cyfieithiad ei hun yw pan fyddaf wedi derbyn y ddogfen wreiddiol ar bapur yn 
hytrach na ffeil Word.

Garmon

Garmon Davies
Ewrolingo
+44 (0) 1656 668603
www.ewrolingo.co.uk

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary 
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sylvia Prys Jones
Sent: 13 November 2004 12:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yn ogystal

Yn fy mhrofiad i, mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid yn talu yn ôl nifer y
geiriau yn yr iaith wreiddiol, fel y gallan nhw bennu pris y gwaith cyn ei
gomisiynu.

Gyda llaw, rhag ofn bod rhywrai wedi camddeall, rwy'n cyfeirio at yr
ymadrodd 'yn ogystal' ar ei ben ei hun, nid fel rhan o 'yn ogystal â' - gan
fod Berwyn etc yn sôn am dri gair.

e.e. Yn ogystal, anfonwyd llythyr at yr holl bartneriaid yn gofyn am
wybodaeth.

Mae'n dal i swnio'n chwithig i 'nghlust i, efallai am fod rhai cyfieithwyr
yn ei ddefnyddio drwy'r amser yn lle 'hefyd'. Mae'n siwr mai mater o arddull
ydi o, yn hytrach na 'cywir'/'anghywir'.

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Lewis
Sent: 13 November 2004 01:53
To: [log in to unmask]
Subject: Re: yn ogystal


Mi dwi wedi bod yn colli allan felly - drwy brisio yn ol rhif y geiriau yn
y gwreiddiol.
dafydd

On Fri, 12 Nov 2004 11:38:13 -0000, INC Cyfieithu Translation
<[log in to unmask]> wrote:

>Pam defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro?
>
>Am fod rhywun yn cael ei dalu fesul gair.
>
>Wil
>----- Original Message -----
>From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Friday, November 12, 2004 11:31 AM
>Subject: Re: yn ogystal
>
>
>Does dim rheol fel y cyfryw, ond byddwn i'n argymell defnyddio 'hefyd' am
>'also' bob tro oni bai bod hynny'n creu ymadrodd trwsgwl neu amwys. Pam
>defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro? Fe all mai ffansi'r cyfieithydd yw
>dewis 'yn ogystal â' neu fe all fod rhyw athro neu athrawes wedi dysgu'r
>cyfieithydd i arfer ymadrodd yr oedd ef neu hi ei hun wedi ymserchu ynddo
>... Byddai John Gwilym Jones yn arfer dysgu ei fyfyrwyr nad oedd angen
rhoi
>coma o flaen 'a' neu 'ac', ond gall defnyddio'r coma yn y mannau hynny
osgoi
>amwysedd neu wneud i'r frawddeg lifo'n well. Gall fod yn anodd
gwahaniaethu
>rhwng mympwy a chywirdeb ar adegau ...
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]>
>To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
>Sent: Friday, November 12, 2004 11:12 AM
>Subject: Re: yn ogystal
>
>
>Beth ydi'r rheol efo'r ymadrodd hwn? Dw i'n darllen gwaith cyfieithydd
ifanc
>sy'n ei ddefnyddio'n gyson yn lle 'hefyd' ac mae'n swnio'n chwithig iawn i
>mi.
>
> 1) rydych chi i fod i ddefnyddio yn ogystal efo rhywbeth ar ei ôl - yn
>ogystal â'r problemau cychwynnol......
>
>2) Mae cydweithiwr yn awgrymu ei fod o'n iawn hefyd ar ddiwedd cymal
>
>rhoi sylw i'r bechgyn, a'r merched yn ogystal.
>
>Unrhyw sylwadau? Neu ydan ni'n mynd i faes cywirdeb iaith, yn hytrach na
>thermau?
>
>Diolch
>
>Sylvia
>---
>-
>---
>Outgoing mail is certified Virus Free.
>Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
>Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004

---
Incoming mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004

---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004


---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.796 / Virus Database: 540 - Release Date: 13/11/2004