Yn fy mhrofiad i, mae'r mwyafrif helaeth o gwsmeriaid yn talu yn ôl nifer y geiriau yn yr iaith wreiddiol, fel y gallan nhw bennu pris y gwaith cyn ei gomisiynu. Gyda llaw, rhag ofn bod rhywrai wedi camddeall, rwy'n cyfeirio at yr ymadrodd 'yn ogystal' ar ei ben ei hun, nid fel rhan o 'yn ogystal â' - gan fod Berwyn etc yn sôn am dri gair. e.e. Yn ogystal, anfonwyd llythyr at yr holl bartneriaid yn gofyn am wybodaeth. Mae'n dal i swnio'n chwithig i 'nghlust i, efallai am fod rhai cyfieithwyr yn ei ddefnyddio drwy'r amser yn lle 'hefyd'. Mae'n siwr mai mater o arddull ydi o, yn hytrach na 'cywir'/'anghywir'. -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Dafydd Lewis Sent: 13 November 2004 01:53 To: [log in to unmask] Subject: Re: yn ogystal Mi dwi wedi bod yn colli allan felly - drwy brisio yn ol rhif y geiriau yn y gwreiddiol. dafydd On Fri, 12 Nov 2004 11:38:13 -0000, INC Cyfieithu Translation <[log in to unmask]> wrote: >Pam defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro? > >Am fod rhywun yn cael ei dalu fesul gair. > >Wil >----- Original Message ----- >From: "Berwyn Jones" <[log in to unmask]> >To: <[log in to unmask]> >Sent: Friday, November 12, 2004 11:31 AM >Subject: Re: yn ogystal > > >Does dim rheol fel y cyfryw, ond byddwn i'n argymell defnyddio 'hefyd' am >'also' bob tro oni bai bod hynny'n creu ymadrodd trwsgwl neu amwys. Pam >defnyddio tri gair os gwnaiff un y tro? Fe all mai ffansi'r cyfieithydd yw >dewis 'yn ogystal â' neu fe all fod rhyw athro neu athrawes wedi dysgu'r >cyfieithydd i arfer ymadrodd yr oedd ef neu hi ei hun wedi ymserchu ynddo >... Byddai John Gwilym Jones yn arfer dysgu ei fyfyrwyr nad oedd angen rhoi >coma o flaen 'a' neu 'ac', ond gall defnyddio'r coma yn y mannau hynny osgoi >amwysedd neu wneud i'r frawddeg lifo'n well. Gall fod yn anodd gwahaniaethu >rhwng mympwy a chywirdeb ar adegau ... > >Berwyn > >----- Original Message ----- >From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]> >To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> >Sent: Friday, November 12, 2004 11:12 AM >Subject: Re: yn ogystal > > >Beth ydi'r rheol efo'r ymadrodd hwn? Dw i'n darllen gwaith cyfieithydd ifanc >sy'n ei ddefnyddio'n gyson yn lle 'hefyd' ac mae'n swnio'n chwithig iawn i >mi. > > 1) rydych chi i fod i ddefnyddio yn ogystal efo rhywbeth ar ei ôl - yn >ogystal â'r problemau cychwynnol...... > >2) Mae cydweithiwr yn awgrymu ei fod o'n iawn hefyd ar ddiwedd cymal > >rhoi sylw i'r bechgyn, a'r merched yn ogystal. > >Unrhyw sylwadau? Neu ydan ni'n mynd i faes cywirdeb iaith, yn hytrach na >thermau? > >Diolch > >Sylvia >--- >- >--- >Outgoing mail is certified Virus Free. >Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). >Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004 --- Incoming mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004 --- Outgoing mail is certified Virus Free. Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004