Ann, 'Dach chi'n iawn! Dyna oedd Ednyfed Jones, athro Cymraeg ysgol Pwllheli slawer dydd yn hoff o'i ddweud hefyd (mi glywaf o rwan). Bu farw yn ddiweddar yn ei nawdegau - heddwch i'w lwch. Dafydd On Thu, 11 Nov 2004 15:11:26 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: >I fod yn fanwl gywir, mae "defnyddwyr gwasanaeth" yn golygu "users of *a* >service" yn hytrach na "users of *the* service". >Ann >----- Original Message ----- >From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> >To: <[log in to unmask]> >Sent: Thursday, November 11, 2004 2:35 PM >Subject: Re: Service-users > > >> Diolch David, >> Fedra innau chwaith ddim gweld rheswm o gwbl am y cysylltnod, yn y Gymraeg >> na'r Saesneg. Yn ogystal, wela i ddim gwahaniaeth ymarferol >> rhwng 'defnyddwyr gwasanaeth' a 'defnyddwyr y gwasanaeth' yn yr unigol, >> mae'r ail yn llawer mwy naturiol, rhyw fath o ymdrech yw hyn i greu carfan >> o bobl mewn 'business'speak' yn hytrach na dweud y peth yn naturiol. Yr un >> yw'r ystyr, hyd y gwela i. Credaf bod angen (a chyfle) i gyfieithwyr >> wrthwynebu defnyddio termau fel hyn yn y Gymraeg (peth a wnes i ddim y tro >> yma, ond bydd cyfle arall)! >> Dafydd >> >> On Wed, 10 Nov 2004 10:40:32 -0000, =?iso-8859-1?Q?Geraint_L=F8vgreen?= >> <[log in to unmask]> wrote: >> >> >Cytuno, >> >ac yn bendant does dim isio'r cysylltnod yn y Gymraeg. >> >Geraint >> > >> >----- Original Message ----- >> >From: "David Bullock" <[log in to unmask]> >> >To: <[log in to unmask]> >> >Sent: Wednesday, November 10, 2004 8:45 AM >> >Subject: Re: Service-users >> > >> > >> >Fel yn achos yr ymadrodd "antibiotic producing" pa ddydd, mae'n debyg bod >> >yr ateb yn dibynnu ar ystyr y gwreiddiol. >> > >> >Fe fydd yna adegau pan fyddwch yn gwybod mai un gwasanaeth sy'n cael ei >> >drafod, ac felly sôn am ddefnyddwyr y gwasanaeth hwnnw fyddwch chi, >> >e.e. "daeth cwynion i law yn ystod y flwyddyn oddi wrth saith o >> >dddefnyddwyr y gwasanaeth, ond roedd pob un arall o ddefnyddwyr y >> >gwasanaeth yn ddigon bodlon ar y safonau". >> > >> >Ar y llaw arall, os nad yw'n hysbys mai un gwasanaeth yn unig sydd dan >> >sylw, yna y lluosog yw'r gystrawen naturiol yn Gymraeg. Yn aml iawn lle >> >mae'r Saesneg yn defnyddio'r unigol, mae'r Gymraeg yn defnyddio'r >lluosog: >> >book shop, ond siop lyfrau; apple tart ond tarten afalau; fell walking >and >> >mountain climbing, ond cerdded y bryniau a dringo mynyddoedd; song writer >> >ond awdur caneuon. >> > >> >Felly, mae'n hawdd cael brawddeg fel hyn: "Mae cwsmeriaid adrannau'r >> >cyngor yn fodlon ar y cyfan: dim ond saith cwyn ddaeth i law gan >> >ddefnyddwyr gwasanaethau yn ystod y flwyddyn." >> >>