Efallai nad oes llawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddau. Ond mi fyddwn yn ddiolchgar o wybod beth fyddai pobl yn ei ddweud am "service-users"? - jargon go iawn. "Defnyddwyr-gwasanaeth", ynteu "defnyddwyr-gwasanaethau"? Y cyntaf roeddwn i'n meddwl, ond... Ac wrth gwrs, ddylwn i gael gwared o'r heiphen er ei bod yn y gwreiddiol? Diolch am unrhyw sylwadau. Dafydd On Tue, 9 Nov 2004 10:17:59 -0000, Garmon Davies <[log in to unmask]> wrote: >Diolch yn fawr Dafydd. Gan nad wyf yn gallu cysylltu'n uniongyrchol â'r >awdur i wirio hyn bydd yn rhaid i mi anfon nodyn gyda'r cyfieithiad i >esbonio bod dau ddewis posib a rhoi'r dewis i'r awdur yn y pen draw. > >Garmon > >Garmon Davies >Ewrolingo >+44 (0) 1656 668603 >www.ewrolingo.co.uk >