----- Original Message -----From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Huw GaranTo: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]Sent: Monday, November 08, 2004 11:14Subject: Re: present/presentationMeddai Magi:beth oedd yn bod hefo clefyd siwgr neu'r clefyd melys, dwn i ddimY prif beth oedd yn bod â chlefyd y siwgr, am wn i, oedd nad siwgr sy'n achosi diabetes ond methiant y pancreas. Gellid dadlau bod pydredd dannedd yn 'glefyd siwgr' gan mai siwgr yw'r prif achos... Er bod pawb yn gyfarwydd â 'chlefyd (y) siwgr' fel ymadrodd, efallai bod cadw at yr enw Groeg, sef 'diabetes', yn well yn y pen draw?