Print

Print


Cwestiwn diddorol a phwysig yw 'ymhle mae safon yr iaith Gymraeg i'w ganfod erbyn hyn?'
 
Teimlaf fel dweud gair o blaid y 'llygriad gogleddol ansafonol 'chdi' Y mae Dr John Gwilym Jones yn gartrefol yn ei ddefnyddio, ac yn ei osod mewn cyd destun diddorol  o wahaniaethu rhwng dieithrwch ac anwyldeb ( Ac Eto Nid Myfi, t.39. Nid oes ond eisiau darllen y monologau yn yr un gwaith (ee tt 42 - 45, 59 -61) i weld beth yw ystyr gwir feistrolaeth ar yr iaith lenyddol hefyd.
 
Er ei fod yn gynefin iawn â llenyddiaeth Saesneg ac Americanaidd (ac yn gyfieithydd ar ddramau cyfoes o'r llenyddiaethau hynny) bu i John Gwilym fyw bron y cyfan o'i oes faith  mewn cymdeithas bron yn gyfangwbl uniaith Gymraeg. Efallai'n wir mai ef yw'r olaf o'n llenorion y gellir dweud hynny amdano.
 
Yr oedd ei iaith lafar yn ystwyth a rhwydd, ond bob amser yn 'safonol'.
Byddai bob amser yn ymdrafferthu â hi, yn enwedig gyda'i chystrawennau, ac yn osgoi llurguniadau a benthyciadau diangen, a ystyriai yn 'ddiogi ieithyddol'.
 
Bryn 

        	
---------------------------------
 ALL-NEW Yahoo! Messenger - all new features - even more fun!