Yn ei Ramadeg, dywed Peter Wynn (td 245) 'Nid
rhwng ti a chi ... y mae'r unig ddewis mewn
cyd-destunau ffurfiol: gellir hefyd ddefnyddio chwi (a'i ffurfiau
perthynol chwychwi a chwithau). I rai siaradwyr, amrywiad
ar chi a neilltuir i gyd-destunau tra ffurfiol yw chwi.
O'r herwydd, chwi a ddefnyddir yn nodweddiadol mewn llythyrau rhwng
sefydliadau ac unigolion, ac mewn dogfennau pwysig fel papurau arholiadau.
At hynny, i lawer o siaradwyr sicr eu hiaith, chwi yw'r ffurf
ysgrifenedig sy'n cyfateb i'r chi llafar.'
Yn Uned Gyfieithu'r Swyddfa Gymreig 'slawer
dydd, byddai'n pennaeth, Moc Rogers, yn defnyddio chwi bob amser,
a'r gweddill ohonom yn defnyddio chi am ein bod yn tybio bod
chwi yn or-ffurfiol.
Os defnyddir chwi mewn cyd-destunau
anffurfiol, mae'r cyfieithydd wedi colli gafael ar gyweiriau'r iaith.
Efallai fod rhai ysgolion yn dal i ddysgu'r ffurf. Ryw'n cofio synnu
wrth glywed fy neiaint yn canu 'Pen-blwydd hapus i chwi!' dros y ffôn rywdro
- roeddwn i'n meddwl ein bod ni wedi hen roi'r gorau i'r ffurf.
Does neb, hyd y gwn i, wedi deddfu o blaid nac
yn erbyn chwi. Byddwn i'n dadlau o blaid ei hepgor rhag i ni
ddieithrio rhagor eto ar ddarllenwyr, ond chwedl Brynley Rees ym Mangor,
'Bernwch chwi!'.
O sôn am bethau tra ffurfiol (a dyfynnu Peter
Wynn), sylwoch chi erioed ar y defnydd o tra mewn erthyglau a
darlithau academaidd, yn hytrach na'r gair iawn? Mae'n beth
tra urddasol i'w wneud - ac yn dra chwerthinllyd o'i or-wneud
...
Berwyn
----- Original Message -----
Sent: Thursday, November 04, 2004 9:43
PM
Subject: chi / chwi
> Rwyf wedi gweld 'chwi' yn cael ei ddefnyddio mewn dogfennau sydd
yn weddol
> anffurfiol, e.e. mewn cyfeiriadau i bobl sydd yn cymryd
rhan mewn treialon
> clinigol. Ond tydwi ddim yn hollol glir pa bryd y
dylir defnyddio 'chi' yn
> hytrach na 'chwi' - a oes
canllawiau?
> Dafydd