Wrth gysylltu â Thy'r Cwmniau mae hyn yn wir,
ond ar gyfer pob diben arall faswn i'n meddwl ei bod yn berffaith iawn defnyddio
Ltd yn Saesneg a Cyf yn Gymraeg.
----- Original Message -----
Sent: Tuesday, November 23, 2004 3:22
PM
Subject: Re: ltd - cyf
Gan fod gennyf gwmni wedi ei gofrestru fel *****cyf/*****ltd, cefais
drafferth gan Dy^'r Cwmnïau oherwydd nad oeddwn wedi cynnwys yr 'Ltd' olaf
mewn ffurflen a yrrais yn ôl atynt dros y We. Daeth yn ôl wedi ei farcio 'name
of company incorrect' Roedd enw y cwmni wedi ei gofrestru'n ddwyleithog
yn rhy hir i'r nifer o fylchau oedd ar gael ar y ffurflen
gyfrifiadurol. Serch hynny, maent hwythau yn gyrru'r talfyriadau mwyaf
echrydus ar enw'r cwmni ataf!
Y gwirionedd yw felly nad oes unrhyw statws cyfreithiol gan gyfieithiad
enw cwmni na 'cyf' os nad yw enw'r cwmni yn ddwyiethog wedi ei gofrestru,
a bod 'cyf' yn rhan o enw cofrestredig y cwmni.Os yw wedi ei gofrestru
felly, yna rhaid defnyddio enw llawn dwyieithog y cwmni ( a 'Ltd' a 'cyf')
wrth ddisgrifio'r cwmni i Dy^'r Cwmnïau.
Alwyn