Onid symud i le arall (yn y farchnad) mae cyrff/cwmniau/unigolion
gyda'u reposition(ing)?
Hynny yw, maent yn gwneud neu'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r hyn yr
arferent ei wneud neu ei gynnig, ac felly'n ateb angen neu chwaeth sydd wedi
newid.
Er enghraifft, mae llyfrgelloedd bellach yn cynnig ffordd o gael at y
Rhyngrwyd i bobl sydd heb gyfrifiadur gartref, yn hytrach na dim ond benthyca
llyfrau, neu hyd yn oed recordiau, CDs, fideos a DVDs.
Tybiwn i fod y syniad o newid neu newydd-deb yn bwysig, a bod Sylvia yn
llygad ei lle wrth gynnig 'creu lle newydd iddynt eu
hunain'.