Print

Print


Onid symud i le arall (yn y farchnad) mae cyrff/cwmniau/unigolion gyda'u reposition(ing)?

Hynny yw, maent yn gwneud neu'n cynnig rhywbeth gwahanol i'r hyn yr arferent ei wneud neu ei gynnig, ac felly'n ateb angen neu chwaeth sydd wedi newid.

Er enghraifft, mae llyfrgelloedd bellach yn cynnig ffordd o gael at y Rhyngrwyd i bobl sydd heb gyfrifiadur gartref, yn hytrach na dim ond benthyca llyfrau, neu hyd yn oed recordiau, CDs, fideos a DVDs.

Tybiwn i fod y syniad o newid neu newydd-deb yn bwysig, a bod Sylvia yn llygad ei lle wrth gynnig 'creu lle newydd iddynt eu hunain'.