Mynd i gwrdd â'r gelyn ...
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, November 17, 2004 1:06
PM
Subject: Re: Engage
Mae gofyn bod yn ofalus efo mynd i'r afael - gallai dweud 'mynd i'r afael
a'r metron' er enghraifft gael ei ddehongli mewn o leiaf ddwy ffordd
ac achosi cryn gythrwfwl.
Wil
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, November 17, 2004
12:54 PM
Subject: Re: Engage
'mynd i'r afael a'r gelyn' - dwi'n eitha hoff o'r hen 'mynd i'r
afael'....!!
Catrin
----- Original Message -----
Sent: Wednesday, November 17, 2004
12:29 PM
Subject: Re: Engage
Mae'n dibynnu eto ar y cyd-gyswllt ond ydi? fe fydd 'trafod gyda'r
cleient' yn briodol gyda rhai, ond 'cydweithio gyda'r cleient' mewn
sefyllfaoedd eraill. Mae 'ymwneud â'r cleient' yn swnio yn rhyw broses od
a llechwraidd iawn i mi, ond mae'n debyg mai hynny sy'n cyfleu orau yn
syniad niwlog ac amwys o 'engage with the client'. Os oes angen gwneud y
Gymraeg yn gliriach na'r Saesneg efallai mai gwell yw defnyddio'r ferf
sy'n cyfleu orau yr hyn mae'r gweithiwr yn ei wneud go iawn gyda'r
cleient!
Mae 'engage' yn air mor aml-bwrpas di-ddim e.e triwch ffitio
un o'r ystyron uchod gyda 'engage with the enemy'
Alwyn