Mynd i gwrdd â'r gelyn ... ----- Original Message ----- From: INC Cyfieithu Translation To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 17, 2004 1:06 PM Subject: Re: Engage Mae gofyn bod yn ofalus efo mynd i'r afael - gallai dweud 'mynd i'r afael a'r metron' er enghraifft gael ei ddehongli mewn o leiaf ddwy ffordd ac achosi cryn gythrwfwl. Wil ----- Original Message ----- From: catrin.alun To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 17, 2004 12:54 PM Subject: Re: Engage 'mynd i'r afael a'r gelyn' - dwi'n eitha hoff o'r hen 'mynd i'r afael'....!! Catrin ----- Original Message ----- From: Alwyn Evans To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, November 17, 2004 12:29 PM Subject: Re: Engage Mae'n dibynnu eto ar y cyd-gyswllt ond ydi? fe fydd 'trafod gyda'r cleient' yn briodol gyda rhai, ond 'cydweithio gyda'r cleient' mewn sefyllfaoedd eraill. Mae 'ymwneud â'r cleient' yn swnio yn rhyw broses od a llechwraidd iawn i mi, ond mae'n debyg mai hynny sy'n cyfleu orau yn syniad niwlog ac amwys o 'engage with the client'. Os oes angen gwneud y Gymraeg yn gliriach na'r Saesneg efallai mai gwell yw defnyddio'r ferf sy'n cyfleu orau yr hyn mae'r gweithiwr yn ei wneud go iawn gyda'r cleient! Mae 'engage' yn air mor aml-bwrpas di-ddim e.e triwch ffitio un o'r ystyron uchod gyda 'engage with the enemy' Alwyn