Llawer o ddiolch i bawb sydd wedi mynd i'r fath drafferth hyd yn hyn. Dw i'n amau bod y cofnod, sy'n rhan o adroddiad archwilio, yn ymwneud a'r perygl o bobl yn gadael cyfrifiadur ymlaen e.e. wrth fynd am ginio, fel bod rhywun arall yn medru ei ddefnyddio neu godi gwybodaeth ohono. Caf gyfle i holi ymhellach, gobeithio, nes ymlaen y bore 'ma, a dof yn ol. Diolch unwaith eto, Ann ----- Original Message ----- From: "Sylvia Prys Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, November 17, 2004 9:47 AM Subject: [spam-hx] Re: time out > Gofynnais i'r mab sy'n gweithio ym maes cyfrifiadureg beth oedd ystyr y > frawddeg ac mi ges i'r ateb hwn > > "Mewn meddalwedd gynna chdi rhywbeth o'r enw threading. > http://searchvb.techtarget.com/sDefinition/0,,sid8_gci213139,00.html > Mae thread (neu broses) yn gyfres o betha i'r cyfrifadur neud, a mae > cyfrifiadur yn gallu rhedeg unrhyw faint o threads mewn un go (er go iawn > mae'n rhedeg darnau bach o bob un ar y tro). Er enghraift fe alli di ddeud > wrth y cyfrifiadur am chwarae cerdoriaeth tra ti'n sgwennu yn word. > Mae gan windows lot o threads syn gwneud yn siwr fod popeth yn mynd yn iawn. > Mae'r threads yma yn monitro be mae'r lleill yn neud Os ydi thread syn > rhedeg rhaglen yn crashio neu'n cymeryd gormod o amser, fe all windows weld > ei fod heb ddeud ei fod yn ok ers sbel a deud ei fod wedi timeio allan (si > cymraeg da!). > Os oes gen rhywbeth automatic time outs yna fydd o ddim yn checkio os ydi > rhywbeth di gorffen mewn da bryd a bydd yn canslo'r thread yn awtomatig." > > Dw i ddim yn siwr a ydi hyn o gymorth neu'n creu mwy o ddryswch! > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]]On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 16 November 2004 15:25 > To: [log in to unmask] > Subject: time out > > > Cyd-destun: > "He noted that there were no automatic time outs on Windows NT." > > Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg MEU. > > Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a > chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am: > "Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod heb > ei defnyddio." > > A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy > cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn > cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol?? > > Diolch, > > Ann > > --- > Incoming mail is certified Virus Free. > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). > Version: 6.0.792 / Virus Database: 536 - Release Date: 09/11/2004 > > --- > Outgoing mail is certified Virus Free. > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com). > Version: 6.0.797 / Virus Database: 541 - Release Date: 15/11/2004 > >