Cyd-destun: "He noted that there were no automatic time outs on Windows NT." Gwelaf "saib" ar gyfer "time out" yn hen Eiriadur Termau Cyfrifiadureg MEU. Gan nad fydd pawb sy'n darllen y cofnodion hyn yn gyfarwydd iawn a chyfrifiaduron, roeddwn i wedi meddwl am: "Nododd nad oedd rhaglen Windows NT yn diffodd yn awtomatig ar ôl cyfnod heb ei defnyddio." A yw fy nghynnig yn ddisgrifiad cywir o'r sefyllfa? A oes ffordd fwy cyffredin o'i disgrifio? A fyddai "... nad oedd rhaglen Windows NT yn cymryd seibiau awtomatig" yn ddigonol?? Diolch, Ann