A fyddai "i'r dim" yn rhy hen ffasiwn? Yma yn y de mae'n bosib y gellid defnyddio rhywbeth fel 'reit i wala' ond dwi ddim yn siwr faint o bobl ifainc fyddai'n defnyddio'r ymadrodd yn naturiol. Y broblem gyda chyfieithu pethau "ieuenctid" am wn i yw bod eu hiaith yn symud ymlaen mor glou, gall gair fod yn hollol ffasiynnol am gyfnod ac erbyn i ni hen bobl (sef pawb dros 21 oed) ddod i wybod amdano mae wedi diflannu megis eira ddoe. Pob lwc Hg Huw Garan [log in to unmask] (mailto:[log in to unmask])