Tydwi ddim yn anghydweld a hyn - mae i 'hunaniaeth' ryw elfen emosiynol - cysyniad rhywun o bwy ydynt efallai. Ond gall fod yn anodd dewis rhwng y posibiliadau weithiau. Ac yna wedyn, ddylwn ni gopio 'gair' yr Americanwyr (ID) ynteu eu dull o ffurfio'r 'gair' (AD) - neu dim un o'r ddau? Dwn i ddim. Dafydd On Mon, 22 Nov 2004 20:46:34 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: >> Bu bron imi a defnyddio 'ID'. Dwn i ddim os byddwn i'n licio bathu 'AD' - >> drysu'r darllenydd heb angen efallai? >Sori. 'roeddwn i wedi bwriadu ychwanegu at awgrym Bruce y byddai'n syniad >da i roi eglurhad mewn cromfachau'r tro cyntaf, ond anghofiais i. > >'Rwy'n dal i feddwl bod ystyr braidd yn wahanol i "hunaniaeth" ac nad yw'r >ffaith bod cyfieithydd arall wedi'i ddefnyddio rywdro ar gyfer "ID" yn newid >hynny. > >Ann > > >----- Original Message ----- >From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> >To: <[log in to unmask]> >Sent: Monday, November 22, 2004 7:58 PM >Subject: Re: I.D. > > >> Diolch yn fawr. >> >> 'Hunaniaeth' ddefnyddiais yn y diwedd, teimlais ei fod yn ffitio yn reit >> dda heb dynnu gormod o sylw ato'i hun...er mai yng nghyd-destun hunanieth >> genedlaethol y defnyddir ef ar y we gan amlaf, dwi'n meddwl. Ar ol anfon y >> gwaith i'r cleient sylwais fod 'hunaniaeth' wedi cael ei ddefnyddio gan y >> GIG (NHS) hefyd, ac ym maes gofal iechyd oedd y cyfieithiad. >> >> Bu bron imi a defnyddio 'ID'. Dwn i ddim os byddwn i'n licio bathu 'AD' - >> drysu'r darllenydd heb angen efallai? >> >> Byddai 'adnabod' yn iawn mewn rhai llefydd ond rhaid oedd cael gair oedd >> yn awgrymu adnabod pwy yw rhywun yn unigryw, mewn is-deitl. >> >> Fyswn i ddim yn defnyddio cydnabod - "Fy niolch i'm cydnabod o bob gwaed" >> ayyb. >> >> Dafydd >> >> >> On Mon, 22 Nov 2004 14:49:08 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]> >> wrote: >> >> >Mae'n chwarter i dri, a gwelaf nad yw neges a anfonais am chwarter i >> ddeudeg >> >eto wedi cyrraedd y grwp. Tybed pryd y gwelwch hyn? >> > >> >Dyma gyd-digwyddiad: 'Rwyf newydd gyfieithu cais o'r Gymraeg. Mae bocs >> ar >> >y diwedd gyda'r cwestiwn: >> >"A amgaewyd ffi gywir yr ymgeisydd ynghyd a^'r cerdyn cydnabod a stamp >> >arno?" >> >Mae'n amlwg yn golygu "acknowledgement card" >> > >> >Ann >>