Diolch yn fawr. 'Hunaniaeth' ddefnyddiais yn y diwedd, teimlais ei fod yn ffitio yn reit dda heb dynnu gormod o sylw ato'i hun...er mai yng nghyd-destun hunanieth genedlaethol y defnyddir ef ar y we gan amlaf, dwi'n meddwl. Ar ol anfon y gwaith i'r cleient sylwais fod 'hunaniaeth' wedi cael ei ddefnyddio gan y GIG (NHS) hefyd, ac ym maes gofal iechyd oedd y cyfieithiad. Bu bron imi a defnyddio 'ID'. Dwn i ddim os byddwn i'n licio bathu 'AD' - drysu'r darllenydd heb angen efallai? Byddai 'adnabod' yn iawn mewn rhai llefydd ond rhaid oedd cael gair oedd yn awgrymu adnabod pwy yw rhywun yn unigryw, mewn is-deitl. Fyswn i ddim yn defnyddio cydnabod - "Fy niolch i'm cydnabod o bob gwaed" ayyb. Dafydd On Mon, 22 Nov 2004 14:49:08 -0000, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote: >Mae'n chwarter i dri, a gwelaf nad yw neges a anfonais am chwarter i ddeudeg >eto wedi cyrraedd y grwp. Tybed pryd y gwelwch hyn? > >Dyma gyd-digwyddiad: 'Rwyf newydd gyfieithu cais o'r Gymraeg. Mae bocs ar >y diwedd gyda'r cwestiwn: >"A amgaewyd ffi gywir yr ymgeisydd ynghyd a^'r cerdyn cydnabod a stamp >arno?" >Mae'n amlwg yn golygu "acknowledgement card" > >Ann