Print

Print


I osgoi camddealltwriaeth, dylwn ddweud mai Geiriadur y Brifysgol a Geiriadur yr Academi sy'n defnyddio "eg/b" neu "eb/g." yn ôl amlder y defnydd. Mae'r geiriaduron termau yng Nghysgair a Chysgliad, yn ôl yr hyn a glywais, yn "defnyddio'r confensiwn eg/b. bob tro". 

Ann

----- Original Message ----- 
  From: Ann Corkett 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Saturday, October 16, 2004 10:52 PM
  Subject: [spam-hx] Re: Dawns/y ddawns


  Pwynt bach pwysig, Huw.  Ni restrir "dawns" yng NgyB fel "eg/b", ond fel "eb/g".  Mae'n gwneud gwahaniaeth.  Mae gosod y cenhedloedd fel hyn yn golygu mai'r un sy'n dod yn gyntaf yw'r defnydd mwyaf cyffredin (ac weithiau, meddai Bruce, mi all yr enghreifftiau o'r defnydd llai cyffredin fod yn ychydig iawn).  Byddai fo, fel chi, bob amser yn trin "dawns" fel gair benywaidd, ond mae o'n awgrymu o bosibl nad "dawns" yw'r cyfieithiad gorau beth bynnag, ond "dawnsio" neu "y ddawns".  Mae o'n awgrymu rhywbeth fel "Darperir/Cyflwynir/Arlwyir dawnsio/y ddawns ym mwrdeistref Caerdydd ... ayb"

  Ann
    ----- Original Message ----- 
    From: Huw Garan 
    To: [log in to unmask] 
    Sent: Saturday, October 16, 2004 9:41 PM
    Subject: Dawns/y ddawns


    Byddwn ni ym maes dawnsio gwerin yn aml yn cyfeirio at 'fyd y ddawns', sy'n gwneud i mi dybio y gellid defnydido '(y) (d)dawns i olygu dawnsio yn gyffredinol boed yn fale, rhywbeth tra modern fel Diversions yng Nghaerdydd neu ddawnsio gwerin.  Mae'r gair bob amser yn fenywaidd yn fy mhrofiad i.  

    Dyw Geiriadur y Brifysgol yn fawr o help, gwaetha'r modd: mae'n rhoi'r gair yn eg/b.

    gobeithio nad yw hyn yn drysu gormod!

    Hg