Tybed ai'r syniad neu'r ddelwedd oedd bod y rhai 'cadwedig' yn y winllan/y gorlan/ar y tir âr a bod pechaduriaid ar dir comin a'r pechaduriaid mwyaf pechadurus ar dir comin gwyllt, sef y tir gwaethaf oll? 'Cast into outer darkness' neu 'beyond the pale' yw'r ymadroddion Saesneg sy'n dod i'r meddwl. Berwyn ----- Original Message ----- From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> Sent: Friday, October 01, 2004 1:28 AM Subject: Re: "Commin Gwyllt" Diolch Berwyn - diddorol iawn. Mae'r ardal o gwmpas pwll glo Cilely. Dafydd On Thu, 30 Sep 2004 12:50:14 +0100, Berwyn Jones <[log in to unmask]> wrote: >O dan 'comin' ar dudalen 548 Geiriadur Prifysgol Cymru: "Yng Nghwmtawe, arferid comin am y sêt hir gydag ochr y capel ar yr oriel', 'rhywun yn ishte ar y comin'." Wn i ddim a yw hynny o ryw help. A oes cyd-destun neu enw ardal? > >Berwyn > >----- Original Message ----- >From: "Dafydd Lewis" <[log in to unmask]> >To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]> >Sent: Wednesday, September 29, 2004 5:52 PM >Subject: "Commin Gwyllt" > > >> Maen ddrwg gen i ond mae rhyw ystyr 'crefyddol' i hwn (o bosib) nad wyf >> wedi dod ar ei draws o'r blaen. Dychmygaf mai rhywbeth i wneud a mynychu'r >> dafarn yn hytrach na'r capel ydyw. Oes rhywun yn gwybod hanes y dywediad? >> Dafydd