Gorchymyn Llys yw hwn i beri i riant weithredu mewn modd arbennig tuag at ei blentyn, sy'n golygu fel rheol ymwneud a'r gwasanaethau cymdeithasol, mynychu cyfarfodydd ag ati. Y mae fel rheol yn para am 6 mis.
Mae'n debyg mai 'gorchymyn rhiantu' yw'r cyfieithiad agosaf. Ond y mae, fel y sylwyd eisoes, yn swnio braidd yn chwithig. Yn amlach na pheidio, gorchymyn i un rhiant fydd o (Rhaid enwi'r sawl y mae'n berthnasol iddo. y rhiant a'r plentyn yn y gorchymyn).
Beth , felly, am symyleiddio pethau a'i alw'n 'Orchymyn Rhiant'
Bryn.
ALL-NEW
Yahoo! Messenger
- all new features - even more fun!