Holais ein harbenigwyr Seicoleg ynghylch y term uchod, ac er bod y drafodaeth wreiddiol mae'n siwr wedi mynd yn angof erbyn hyn, rwy'n dyfynnu'r ateb isod rhag ofn y bydd rhywun yn chwilio'r archif amdano yn y dyfodol: "Fel term ar gyfer Lag sequential analysis - byddwn yn bersonol yn dewis: dadansoddiad oediad-ddilyniannol. Mae dadansoddiad ol-oedi - yn cyfleu bod angen oedi cyn y dadansoddi - nid dyma'r ystyr." Delyth -- Delyth Prys e-Gymraeg / e-Welsh Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru,Bangor / University of Wales,Bangor Bangor Gwynedd LL57 2DG [log in to unmask] +44 (0)1248 38 2800