"Cynefino" yn derm gwell fyth. ----- Original Message ----- From: Alwyn Evans To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, September 15, 2004 5:23 PM Subject: Re: INDUCTION Dydw'i'm yn meddwl ei fod yn arbennig o bwysig, a bod yn onest - mae cyflwyno ac anwytho fel ei gilydd ac mae'r trueniaid sy'n gorfod ei ddioddef yn gwybod be 'di'r broses beth bynnag yw'r enw. - dw'innau'n eitha hoff o 'sefydlu' er bod rhywbeth eglwysig yn ei gylch - mae archesgob yn cael ei 'sefydlu' (install) onid yw? Ond mae o leiaf 6 ystyr yn y Saesneg i 'Induction' a dim ond un ohonynt sydd yn y byd trydan! Onid gwell i ninnau osgoi 'ipsesdixits' hefyd - sef rheol( neu gyfieithiad!) am ein bod yn dweud ei fod yn rheol?. Alwyn Alwyn